Home and garden pesticides and biocides

Sut ydych chi yn gael gwared o’ch blaladdwyr domestig?

Efallai bod gennych amrywiaeth o gynnyrch yn eich cartref, garej neu yng nghwt yr ardd i reoli a thrin problemau yn y tŷ a’r ardd.

Gall rhain gynnwys:

  • Lladdwyr chwyn a mwsogl i lawntiau a llwybrau
  • Triniaethau i dynnu algae o batios carreg a phren
  • Lladdwyr morgrug, chwilod duon, pryfaid, gwenyn meirch a llyslau.
  • Peledi malwod duon
  • Gwenwyn llygod a llygod mawr
  • Paent i atal llwydni a ffwng
  • Triniaethau coed

Mae’r cynnyrch yma yn cynnwys cemegolion (neu ‘cynhwysion gweithredol’) all niweidio’r amgylchedd drwy gam-ddefnydd neu drwy gwarediad anaddas. Er enghraifft, gallent lygru dŵr a lladd bywyd gwyllt.

Peidiwch â’u tywallt i lawr y sinc

Mae gan blaladdwyr briodweddau peryglus sydd yn golygu fod angen cael gwared â nhw mewn ffordd wahanol. Os oes gennych gynnyrch blaladdwr heb ei ddefnyddio yr ydych angen cael gwared arno, peidiwch â’i dywallt i lawr y toiled, y sinc na’r draen gan ei fod yn debygol o lygru’r cwrs dŵr. Mae hyn yn gallu digwydd hyd yn oed os yw’ch draen yn gwagio yn syth i garthffos, lle fedr hefyd amharu ar effeithiolrwydd y gwaith trin carthffosiaeth.

Peidiwch â’u rhoi yn y bin

Ni ddylech roi’r cynnyrch heb ei ddefnyddio yn eich bin sbwriel chwaith. Gall hyn beri iddo gael ei waredu mewn safle tirlenwi sydd heb ei drwyddedu na’i baratoi i dderbyn gwastraff peryglus.

Ceisiwch gael gwybod mwy

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am gyngor ar drin eich blaladdwyr di-eisiau. Mae gan rhai cynghorau safleodd amwynder dinesig ble fedrwch adael eich plaladdwr – caiff ei gadw gyda gwastraff peryglus eraill a’i ymwaredu yn gywir. Mae gan rhai cynghorau eraill gwasanaethau casglu o gartrefi. Cewch fwy o wybodaeth am drefniadau eich cyngor ar gyfer blaladdwyr tŷ a gardd a sut i gysylltu â’ch cyngor ar y gwefan Gwaredu Blaladdwyr.