Ein neges diogelwch dŵr
Byddwn yn annog defnyddio dyfroedd o fewn ac o amgylch Cymru a Lloegr yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar gyfer hamdden.
Awgrymiadau gorau ar gyfer aros yn ddiogel o amgylch dŵr
Peidiwch neidio na phlymio i mewn oherwydd gall y dyfnder amrywio a gall pethau peryglus anweledig fodoli, fel
dŵr bas, gwydr wedi torri neu bethau miniog eraill.
- Peidiwch â mynd i mewn ger coredau, lociau, pibellau a llifddorau. Caiff y rhain a rhai nodweddion dŵr eraill eu cysylltu’n aml â cherhyntau cryfion – gall y peryglon hyn yn aml fod y tu hwnt i allu hyd yn oed nofwyr da i ymdopi â nhw’n ddiogel.
- Talwch sylw i unrhyw wybodaeth diogelwch, arwyddion rhybuddio neu fflagiau. Dysgwch ystyr yr arwyddion a gweithredu yn ôl eu cyngor.
- Sylweddolwch y gall dyfroedd mewndirol fod yn oer dros ben, ni waeth pa mor gynnes yw’r tywydd. Gall y rheiny sy’n mynd i mewn i ddŵr oer gael cramp a dioddef anawsterau anadlu. Peidiwch fyth â mentro allan ar lynnoedd, pyllau na chamlesi ag arnynt haen o rew. Gall trwch y rhew amrywio a gallech gwympo drwodd.
- Meddyliwch am y peryglon ger ymyl y dŵr. Gall glannau fod yn ansefydlog a chwympo’n sydyn. Gallant hefyd fod yn hynod lithrig pan fyddant yn wlyb ac os ydych yn cwympo i mewn y mae’n anodd yn aml i ddod allan o’r dŵr.
- Defnyddiwch offer diogelwch addas ar gyfer eich gweithgarwch – gallai hyn gynnwys siaced fywyd neu gymorth arnofio ac eitemau gwisgo diogelwch eraill fel helmed.
- Ystyriwch y peryglon o ddefnyddio gwelyau aer, tiwbiau gwynt a dyfeisiau arnofio eraill. Gallant gael eu cario ymaith gan gerhyntau neu eu chwythu gan y gwynt i mewn i ddŵr dwfn ac mae’n bosibl na fyddant yn eich cadw ar wyneb y dŵr.
- Gall yfed alcohol effeithio’n ddifrifol ar eich gallu a’ch crebwyll pan fyddwch ar neu mewn dŵr. Os buoch yn yfed, meddyliwch yn ofalus am eich diogelwch chi a diogelwch y rheiny y medrech eu rhoi mewn perygl wrth geisio eich achub.
- Mynnwch hyfforddiant mewn technegau achub bywyd ac adfywhau a gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.
- Gall rhieni a gwarcheidwaid helpu i gadw’r plant yn eu gofal yn ddiogel trwy:
- eu dysgu i nofio
- dweud wrthynt am beidio â mynd i mewn i’r dŵr ar eu pennau eu hunain, neu heb oruchwyliaeth
- sicrhau eich bod yn gwybod ymhle y maent a beth maent yn ei wneud
- cadw llygad barcud arnynt pan fyddant yn agos i unrhyw ddŵr agored
- Cofiwch y gall boddi ddigwydd yn gyflym dros ben hyd yn oed mewn dŵr bas a’r allwedd i gadw’n ddiogel yw peidio â mynd i helynt yn y lle cyntaf. Byddwch yn dra gofalus pan fyddwch mewn neu ger dŵr - mae eich dewisiadau mewn argyfwng yn gyfyng iawn ac ni ddylech ddibynnu ar bresenoldeb offer diogelwch.
Beth i’w wneud os gwelwch rywun mewn perygl
-
Ymofyn am help: galwch 999 neu ofyn i rywun arall wneud. Neu, os ydych ar eich pen eich hunan heb ffôn symudol, galwch am help os gallwch weld pobl gerllaw, neu ewch i ymofyn am help.
- Meddyliwch: am eich diogelwch chi eich hunan yn gyntaf. Peidiwch â pheryglu eich hunan trwy fynd i mewn i’r dŵr i achub rhywun – medrech chi fynd i drafferth yn y dŵr yn ogystal.
- Edrychwch: am unrhyw offer diogelwch wrth law fel bwiau achub neu raffau taflu.
- Estynnwch: gall darn o bren, sgarff neu ddillad wedi’u clymu at ei gilydd eich helpu i gyrraedd y person. Cyrcydwch neu orwedd er mwyn osgoi cael eich tynnu i mewn i’r dŵr eich hunan.
- Taflwch: rhaff sydd orau, oherwydd gallwch dynnu’r person i’r lân wedi ei daflu. Os nad oes gennych unrhyw raff, bydd taflu rhywbeth i mewn a fydd yn arnofio fel pêl droed neu hyd yn oed potel blastig wag yn helpu i gadw’r person yn nofio tan i gymorth gyrraedd.
- Cadwch yn gynnes: unwaith y cafodd ei achub, cadwch yr anafus yn gynnes a sicrhau eu bod yn cael help meddygol cyn gynted ag y bo modd.