Cofrestrwch eich cwch

Mae angen i chi gofrestru eich cwch (rhai â phŵer neu heb bŵer) a phrynu trwydded cwch oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych eisiau mynd â’ch cwch ar y dyfrffyrdd a reolir gennym ni. Canfyddwch sut i gofrestru a phrynu eich trwydded.

Rhaid i bob cwch ar ein dyfrffyrdd arddangos plât cofrestru cwch dilys drwy’r adeg.

Pa ddyfrffyrdd ydym ni’n eu rheoli

Rydym yn rheoli’r dyfrffyrdd canlynol ar gyfer mordwyo:

  • Tafwys heb fod yn llanwol (Pont Cricklade i Teddington)
  • Afon Medway rhwng Loc Allington a Rhwystr Leigh (Tonbridge)
  • System Great Ouse, gan gynnwys:
    - Bedford Ouse islaw Kempston
    - Ely Ouse gan gynnwys y Forty Foot islaw Loc Horseway, Old West, Old Bedford a New Bedford  (a elwir yn ogystal yn Afon/Draen neu Sianel Lliniaru Hundred Foot )
    - Little Ouse (Brandon Creek), Ten Mile, Wissey,  Lark a Cam (islaw Loc Bottisham)
  • Nene o Northampton i Wisbech
  • Stour islaw Brundon, Sudbury (Suffolk)
  • Ancholme
  • Camlas Black Sluice (a elwir yn ogystal yn South Forty Foot Drain) rhwng Pont Donington a’r Boston Haven
  • Welland a Glen
  • Camlas Filwrol Frenhinol rhwng Argae West Hythe a Loc Iden

Nyni, yn ogystal, yw’r Awdurdod Harbwr ar gyfer Rye a’r Awdurdod Cadwraeth ar gyfer Moryd Dyfrdwy.

Gallwch, yn syml, gofrestru eich cwch ar y ddyfrffordd ble fyddwch yn defnyddio’ch cwch, neu brynu Trwydded Aur sy’n eich caniatáu i ddefnyddio eich cwch ar holl ddyfrffyrdd Asiantaeth yr Amgylchedd a Dyfrffyrdd Prydain.

Newidiadau i’n gwasanaeth cofrestru cychod

Gwnaethom ychydig o newidiadau i’n gwasanaeth gweinyddu cofrestru cychod. Er mwyn darllen am y newidiadau hyn a sut medrent effeithio arnoch chi, lawrlwythwch ein Dogfen newidiadau i gofrestru (PDF, 93KB)

Rye Harbour charges

When you visit Rye Harbour, or for annual mooring, you need to get a licence from the harbour office and pay your harbour dues.

Cysylltwch â ni

Gallwch chi gysylltu â’n tîm cofreftru cychod ar y ffôn 03708 506 506 neu drwy e-bost yn boatreg@environment-agency.gov.uk