Manylion ynghylch Trwydded Aur Glandŵr Cymru ar gyfer cychwyr sy’n treulio amser ar ddyfroedd Asiantaeth yr Amgylchedd a Glandŵr Cymru.
Os ydych chi’n prynu Trwydded Aur, ni fydd angen i chi brynu trwyddedau ar wahân o bob un o’r awdurdodau hyn.
Mae Trwydded Aur, yn ogystal, yn caniatáu mynediad llawn i holl ddyfroedd Asiantaeth yr Amgylchedd a Glandŵr Cymru ym mhob rhanbarth. Mae trwydded aur yn para am ddeuddeg mis ac mae ar gyfer cychod â phŵer yn unig.
Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio am Drwydded Aur, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod. Fe ddylech gyflwyno eich cais trwy Glandŵr Cymru gan nad ydym ni’n cyhoeddi trwyddedau.
Cofrestriad Cilyddol
Bob blwyddyn byddwn yn cynnig cofrestriad am ddim ar gyfer 15 diwrnod yn olynol er mwyn ymweld â naill ai ein dyfrffyrdd yn Anglia, y De neu Dafwys, os ydych yn dal cofrestriad blynyddol llawn, cyfredol, ar un arall o’n dyfrffyrdd. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r ffurflen cofrestru ymwelydd/ tymor byr ar gyfer y lleoliad y dymunwch ymweld ag ef.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddwch gystal â chysylltu â ni trwy alw 03708 506 506 neu drwy anfon e-bost i boatreg@environment-agency.gov.uk.
Afon Cam
O Ionawr 2013, bydd deiliaid Trwyddedau Aur sy'n dymuno mynd i'r Afon Cam yn uwch na Loc Bottisham angen cofrestru ar wahân gyda Chadwraethwyr yr Afon Cam.
Mae hyn yn ffaith oherwydd bod y Cytundeb Cyfnewid rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Cadwraethwyr wedi newid.
Ewch i wefan y Cadwraethwyr am ragor o wybodaeth.