Ein cyngor diogelwch dŵr
Byddwch gystal â darllen ein cyngor diogelwch dŵr cyn mynd mewn cwch.
- Peidiwch â neidio neu blymio i mewn oherwydd gall y dyfnder amrywio a gall pethau anweledig peryglus fodoli fel dŵr bas, gwydr wedi’i dorri neu bethau siarp eraill.
- Peidiwch â mynd i’r dŵr ger coredau, lociau, pibellau a llifddorau. Mae’r rhain a rhai nodweddion dŵr eraill yn gysylltiedig yn fynych â cheryntau cryfion – yn aml gall y peryglon hyn fod tu hwnt i allu hyd yn oed nofwyr da i ymdopi â nhw’n ddiogel.
- Rhowch sylw i unrhyw wybodaeth ddiogelwch, arwyddion rhybudd neu fflagiau. Dysgwch ystyr yr arwyddion a gweithredu yn ôl eu cyngor.
- Dylech sylweddol y gall dyfroedd mewndirol fod yn oer dros ben, ni waeth pa mor boeth yw’r tywydd. Gall y rheiny sy’n mynd i mewn i ddŵr oer gael cramp a dioddef anawsterau anadlu. Peidiwch fyth â mentro allan dros lynnoedd, pyllau neu gamlesi sydd dan orchudd rhew. Gall trwch y rhew amrywio a gallech gwympo drwyddo.
- Meddyliwch am y peryglon ger lan y dŵr. Gall glannau fod yn ansefydlog a dymchwel yn sydyn. Gallant, yn ogystal, fod yn llithrig iawn pan yn wlyb ac os ydych yn disgyn i’r dŵr mae’n anodd, yn fynych, i ddringo allan ohono.
- Defnyddiwch offer diogelwch addas ar gyfer eich gweithgarwch – gallai hyn gynnwys siaced achub neu gymorth hynofedd a dillad diogelwch eraill fel helmed.
- Ystyriwch y peryglon o ddefnyddio gwelyau aer, tiwbiau mewnol a dyfeisiau arnofio eraill. Gallant gael eu cludo ymaith gan geryntau neu eu chwythu gan y gwynt i mewn i ddŵr dwfn ac mae’n bosibl na fyddant yn eich cadw ar wyneb y dŵr.
- Gall yfed alcohol amharu’n ddifrifol ar eich gallu a’ch crebwyll pan fyddwch yn neu ar y dŵr. Os buoch yn yfed, meddyliwch ddwywaith ynghylch eich diogelwch ac am ddiogelwch y rheiny y gallwch eu peryglu wrth iddynt geisio eich achub.
- Mynnwch hyfforddiant mewn achub bywydau a thechnegau adfywiad a dysgwch beth i’w wneud mewn argyfwng.
- Gall rhieni a gwarcheidwaid helpu i gadw’r plant yn eu gofal yn ddiogel trwy:
- eu dysgu sut i nofio
- dweud wrthynt am beidio â mynd i mewn i ddŵr ar eu pennau eu hunain neu heb oruchwyliaeth
- sicrhau eich bod yn gwybod ble maent a beth maent yn ei wneud
- eu goruchwylio’n agos pan fyddwch ger unrhyw ddŵr agored
-
Cofiwch, gall rhywun foddi’n gyflym iawn hyd yn oed mewn dŵr bas a’r ffordd orau o gadw’n ddiogel yw peidio â mynd i anhawster yn y lle cyntaf. Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch mewn neu ger dŵr – mae eich dewisiadau mewn argyfwng yn hynod gyfyngedig a ni ddylech ddibynnu ar bresenoldeb offer diogelwch.
Beth i’w wneud os gwelwch rywun mewn anhawster
- Mynnwch gymorth: galwch 999 neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny. Neu, os ydych ar eich pen eich hunan heb ffôn symudol, galwch am help os gallwch weld pobl gerllaw, neu ewch i nôl help.
- Meddyliwch: am eich diogelwch eich hunan yn gyntaf. Peidiwch â pheryglu eich hunan trwy fynd i mewn i’r dŵr er mwyn achub rhywun - gallwch chi fynd i anawsterau yn y dŵr yn ogystal.
- Edrychwch: am unrhyw offer diogelwch sydd wrth law fel gwregysau achub neu raffau taflu.
- Estynnwch: gall gwialen, sgarff neu ddillad wedi’u clymu at ei gilydd eich helpu chi i gyrraedd y person. Cyrcydwch neu gorweddwch er mwyn osgoi cael eich tynnu i’r dŵr eich hunan.
- Taflwch: rhaff sydd orau oherwydd gallwch dynnu’r person i’r lan wedyn. Os nad oes gennych raff, bydd taflu rhywbeth a fydd yn arnofio fel pêl droed neu hyd yn oed botel blastig wag yn gymorth i gadw’r person ar wyneb y dŵr nes i gymorth gyrraedd.
- Cadwch yn gynnes: unwaith iddynt gael eu hachub, cadwch y claf yn gynnes a sicrhau eu bod yn cael cymorth meddygol cyn gynted ag y bo modd.