Rydym ni’n dibynnu ar incwm o drwyddedau gwialen er mwyn gweithio gyda phartneriaid er mwyn gwarchod a gwella pysgodfeydd.
Canfyddwch fwy ynghylch ein gwaith:
Mae’r mwyafrif helaeth o bysgotwyr yn cadw at y gyfraith ac yn sicrhau eu bod yn prynu trwydded gwialen cyn mynd i bysgota. Fodd bynnag, mae nifer fach o bobl yn twyllo eu cyd-bysgotwyr ac yn ceisio osgoi’r gyfraith. Mae eraill yn pysgota’n anghyfreithlon, gan beryglu stociau pysgod. Nid ydynt bob amser yn llwyddo.
Y llynedd, bu inni erlyn miloedd o bysgotwyr a photswyr; derbyniodd bob un ddedfryd o ddirwy sylweddol. Y ddirwy uchaf am bysgota heb drwydded yw £2,500. Y ddirwy uchaf am botsio yw £50,000.
Sut i adrodd am bysgota anghyfreithlon
Ydych chi wedi gweld rhywbeth nad yw’n edrych yn iawn? Helpwch ni i atal pobl rhag gwneud niwed i’ch camp chi o bysgota. Os ydych yn gweld unrhyw un yn pysgota’n anghyfreithlon, peidiwch â mynd i’r afael â nhw eich hunain. Galwch ni ar 0800 80 70 60 a dweud wrthym:
- yn union ble mae’r drosedd honedig yn digwydd
- beth sy’n digwydd
- faint o bobl sy’n gyfrannog a disgrifiad ohonynt
- disgrifiad o, a rhifau cofrestru, unrhyw gerbydau
- p’un ai yw’n digwydd yr eiliad honno ai peidio
- p’un ai yw hyn yn digwydd yn rheolaidd yn y lleoliad hwn
Byddwch gystal â gadael rhif cysylltu er mwyn i ni fedru eich galw nôl.
Y rhai na lwyddasant i ddianc
Newyddion diweddaraf:
Rydym hefyd yn erlyn pobl sy’n llygru neu’n gwneud niwed i’r amgylchedd.