Awgrymiadau a syniadau ar gyfer eich taith bysgota yr haf hwn


Cynlluniau pysgota'r Ymddiriedolaethau Afonydd

Beth am ymweld â Chymru, De-orllewin Lloegr neu Ogledd Lloegr yr haf hwn? Gallech bysgota mewn lleoliadau gwyllt a phrydferth am bysgod gêm a bras.

Gyda diolch i''r Ymddiriedolaethau Afonydd bellach mae rhai cynlluniau pysgota gwych sy'n cynnig pysgota diwrnod fforddiadwy ar ddyfroedd prydferth, y bu llawer ohonynt yn gyfyngedig yn flaenorol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn edrychwch ar y cynlluniau ar gyfer Sefydliad Gwy ac Wysg, West Country Rivers Trust, The Eden Trust, a The Tyne Rivers Trust.

Lefelau afonydd

 Mae gan wefan Sefydliad Gwy ac Wysg  hefyd amrywiaeth o we-gamerâu am ddim sy'n dangos lefelau afon ar ei afonydd - amhrisiadwy os ydych yn cynllunio taith.

I gael trosolwg o'r ffordd rydym yn cefnogi llawer o Ymddiriedolaethau Afonydd i wella'r amgylchedd a chreu cyfleoedd pysgota newydd ledled Cymru a Lloegr ewch i wefan Cymdeithas Ymddiriedolaethau Afonydd.

Cadw llygaid ar y tywydd

Cyn mynd ar eich taith bysgota byddwch am astudio'r tywydd siŵr o fod, a chyflyrau'r afonydd os yw'n bosibl. Y pethau allweddol i edrych amdanynt yw tymheredd, cyfeiriad y gwynt a chymylau. Bellach mae llawer o wefannau yn cynnig adroddiadau i'r funud ar y tywydd a'r rhagolygon lleol ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod. Edrychwch ar y dolenni i weld a fyddwch yn rhoi eli haul ffactor 30 ymlaen neu'n cuddio o dan yr ymbarél pan fyddwch yn mynd!

Gall lefelau afon hefyd fod yn hanfodol i lwyddiant eich taith. Mae gan rai o'r Ymddiriedolaethau Afonydd y cyfeirir atynt uchod adroddiadau ar gyflyrau afonydd ar eu gwefannau ac mae gan rai eraill hyd yn oed we-gamera fel y gallwch weld y byrddau mesur a'r lefelau drosoch eich hunain. 

Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am lefel a chyflwr afonydd drwy ein gwasanaeth dros y ffôn, Rivercall. Mae hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer 31 o afonydd yng Nghymru ac afonydd poblogaidd mewn pedwar o'n rhanbarthau yn Lloegr.

  • Rivercall - gwybodaeth am lefel a chyflwr afonydd