(a) Tymor Caeëdig y Brithyll Seithliw
Ni fydd tymor caeëdig blynyddol ar gyfer pysgota am frithyllod seithliw gyda gwialen neu linell ym mhob cronfa ddŵr, llyn a phwll. Mewn dyfroedd eraill bydd y tymor caeëdig yn cael ei bennu gan is-ddeddfau lleol - cysylltwch â'ch swyddfa leol am y rhain (ffôn- 0370 8506506).
(b) Tymor Caeëdig y Brithyll Brown
Mae tymor caeëdig ar gyfer brithyllod brown yn berthnasol i bob dŵr, er bod y dyddiadau'n amrywio yn ôl is-ddeddfau lleol, y gallwch eu cael oddi wrth eich swyddfa leol (ffôn- 0370 8506506).