Arbed pysgod - arbed dŵr

Cyngor i bysgodfeydd ynghylch sychderau

Y ffordd orau y gallwch chi helpu i arbed pysgod eleni ydi arbed dŵr

Mae pysgod eisioes yn dioddef gan lefelau dŵr isel, felly bydd pob diferyn arbedwch chi yn help. Mae’r cyswllt isod yn awgrymu sut y gallwch chi arbed dŵr yn y cartref, yn yr ardd a hyd yn oed yn eich busnes

Pa un a ydych chi’n enweiriwyr neu’n berchennog pysgodfeydd, os gwelwch chi bysgod sy’n:

  • dyhefod am wynt
  • nofio’n araf iawn mewn tyrrau mawr
  • aros mewn un man yn agos at yr wyneb
  • nofio ar yr wyneb

rhowch wybod amdano ar: 0800 80 70 60

Mae gennym gynlluniau yn eu lle trwy hyd a lled y wlad i helpu pysgodfeydd y mae sychdwr yn effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn cynnwys cynghori perchnogion pysgodfeydd ynghylch y ffordd orau o osgoi problemau, a thrwy helpu’n gorfforol i arbed pysgod mewn argyfwng.

Am gyngor ynghylch rheoli eich pysgodfa yn ystod y sychdwr a sut i gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch y ddogfen isod.