Ni ellir defnyddio unrhyw bwysau pysgota a wneir o blwm ac eithrio'r rheiny sy'n llai na 0.06 gram neu lai neu'r rheiny sy'n fwy na 28.35 gram.
Yn nhermau genweirio, mae hyn yn golygu bod peledi plwm o faint 14 i faint 8 a phwysau plwm sydd dros 1 owns yn gallu cael eu defnyddio wrth bysgota.
Tra bod peledi plwm mân (maint 8 a llai) yn gyfreithlon, maent yn gwenwyno adar os cânt eu llyncu. Defnyddiwch gynhwysyddion nad ydynt yn gollwng ar gyfer peledi plwm mân a dylech bob amser gael gwared ar blwm wedi'i ddefnyddio mewn modd diogel, gartref.