Cyfyngiadau ar wialenni pysgota

Is-ddeddf genedlaethol – nifer gwialenni pysgota

Mae nifer fwyaf y gwialenni pysgota y gallwch eu defnyddio i bysgota yn amrywio yn ôl y math o ddŵr a'r math o bysgota.  Mae'r tabl isod yn rhoi manylion am gyfyngiadau ar wialenni pysgota - mae'r rhain yn ddarostyngedig i ddal nifer cywir y trwyddedau.  Mae hyn yn berthnasol dim ond i'r gwialenni pysgota sy'n cael eu defnyddio mewn gwirionedd - gallwch gael cynifer ag y dymunwch wedi'u gosod.

 Mathau o Bysgod

 Afonydd, nentydd, draeniau a chamlesi

 Cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau

Eogiaid a brithyllod môr
(brithyllod mudol)

1 wialen bysgota

2 wialen bysgota*

 Brithyllod (anfudol) a Thorgochiaid

1 wialen bysgota

2 wialen bysgota*

 Pysgod bras a llysywod

4 gwialen bysgota*

4 gwialen bysgota*

* angen 2 drwydded

Wrth bysgota gyda gwialenni pysgota a llinellau lluosog, rhaid gosod gwialenni pysgota fel nad yw'r pellter rhwng bonion y gwialenni pysgota ar y naill ben â'r llall yn fwy na thri metr.

Mae trwydded eogiaid a brithyllod môr yn caniatáu un wialen bysgota i bob trwydded wrth bysgota am eogiaid, brithyllod môr neu frithyllod, neu ddwy wialen bysgota i bob trwydded wrth bysgota am bysgod bras a llysywod.

Mae trwydded eogiaid a physgod bras yn awdurdodi un wialen bysgota wrth bysgota am eogiaid, neu ddwy wialen bysgota wrth bysgota am bysgod bras a llysywod.