Rhwydi cadw, sachau cadw a rhwydi glanio (dyluniad a gwneuthuriad)

Is-ddeddfau cenedlaethol ar gyfer dyluniad, gwneuthuriad a defnydd

Ni chewch ddefnyddio rhwyd lanio sydd ag unrhyw rwyllau clymog na rhwyllau o ddefnydd metelaidd. (Caniateir clymau ar hyd semau'r rhwydi, ar yr amod bod y rhwyd wedi'i gwneud o rwyll heb glymau.)

Ni chewch ddefnyddio rhwyd gadw:

(i) sydd ag unrhyw rwyllau clymog na rhwyllau o ddefnydd metelaidd; neu
(ii) sydd â thyllau yn y rhwyll sy'n fwy na 25mm o gylchedd mewnol; neu
(iii) sy'n llai na 2.0 fetr hir; neu
(iv) sydd â dolenni neu fframiau cynnal sy'n fwy na 40cm ar wahân (ac eithrio'r pellter o frig y ffrâm i'r ddolen neu'r ffrâm gynnal gyntaf) neu sy'n llai na 120cm o gylchedd

Ni chewch ddefnyddio sach gadw:

(i) nad yw wedi'i gwneud o ddefnydd meddal, lliw tywyll, heb fod yn ysgrafellol, sy'n gadael i ddŵr dreiddio drwyddi; neu
(ii) sydd â dimensiynau sy'n llai na 120cm wrth 90cm os yw'n betryal; neu
(iii) sydd â dimensiynau sy'n llai na 150cm wrth 30cm wrth 40cm os caiff ei defnyddio gyda ffrâm a gynlluniwyd gyda'r bwriad bod ffrâm yn cael ei defnyddio.

Ni chewch gadw mwy nag un pysgodyn mewn un sach gadw.