Gall sborau ffwng pla cimwch yr afon oroesi mewn dŵr am hyd at bythefnos, ond gall sychu neu ddiheintio eu lladd.
Mae ei sborau wedi ymdreiddio i’r dyfrffyrdd, weithiau gellir ei gario rhwng safleoedd ar offer pysgota, neu ar esgidiau glaw hyd yn oed.
Gall gyflwyno cimychiaid afon arwyddol i ddŵr nad oedd eisoes yn cynnwys yr haint ledaenu pla cimwch yr afon.
Gall hefyd ledaenu ar esgidiau neu offer gwlyb pobl.
Mae gan bysgotwyr â gwialen rôl allweddol wrth helpu lleihau perygl lledaenu’r haint drwy:
- Sychu neu ddiheintio unrhyw esgidiau neu rwydi cyn symud rhwng afonydd. Byddai’n well osgoi pysgota mewn afonydd gwahanol ar yr un diwrnod.
- Peidio â defnyddio cimychiaid yr afon fel abwyd (mae gwneud hyn yn anghyfreithlon).
Mae cyngor ar gael drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt â’r Cyhoedd ar 0370 8506506.