Mae ein heogiaid brodorol yn wynebu dyfodol ansicr - ond gall pobl sy'n defnyddio dŵr o ran hamdden gan gynnwys pysgotwyr, canŵwyr, rhwyfwyr a defnyddwyr cychod bach helpu eu diogelu.
Geirodactylos salaris
Mae bob amser yn gyffrous gweld eogiaid yn llamu i fyny coredau a rhaeadrau wrth iddynt ddychwelyd i'w tiroedd silio. Ond gallai parasit sy'n lledaenu trwy Ewrop ddinistrio'r boblogaeth yma.
Mae'r parasit (Geirodactylos salaris) yn llai na hanner milimedr o ran maint a phrin y gellir ei weld, ond gall achosi difrod difrifol ymhlith eogiaid, ac mae'n aml yn arwain at farwolaeth pysgod sy'n cael eu heffeithio ganddo. Mae bellach ar led yn Nenmarc, y Ffindir, Norwy a Sweden, ac hefyd wedi'i ganfod yn Ffrainc, yr Almaen, Portiwgal a Sbaen.
Yn ffodus, nid yw'r parasit wedi cael ei ddarganfod yn y DU eto - ond mae arbrofion wedi dangos y byddai'n lladd ein heogiaid, felly mae'n bwysig iawn nad yw'n cael ei drosglwyddo o Ewrop. Mae'n bosibl y gallai hyd yn oed un parasit sy'n cyrraedd afon nad oedd wedi cael ei heffeithio yn y gorffennol, achosi epidemig mewn cyfnod byr iawn.
Mae'r prif fygythiad yn dod gan bysgod wedi'u heintio sy'n cael eu mewnforio ac mae rheolaethau bellach ar waith i leihau'r peryglon hyn. Fodd bynnag, mae perygl bach hefyd y gallai'r rheiny sy'n ymgymryd yn frwd â chwaraeon dŵr sy'n dychwelyd o wledydd Ewropeaidd (Denmarc, y Ffindir, Norwy, Sweden, Ffrainc, yr Almaen, Portiwgal a Sbaen) trwy amryfusedd gario'r parasit yn ôl i'r wlad hon.
Gall y parasit oroesi mewn amodau gwlyb neu laith am bump i chwe niwrnod ar gychod, offer neu ddillad. Y rheiny y mae'n effeithio arnynt fwyaf yw'r rheiny sy'n defnyddio dŵr o ran hamdden sy'n dychwelyd gyda'u hoffer, neu gystadleuwyr Ewropeaidd sy'n dod i'r DU ar gyfer digwyddiadau, lle maent yn bwriadu ailddefnyddio eu hoffer ymhen wythnos.
Os ydych chi'n dychwelyd gydag offer a ddefnyddiwyd mewn afonydd yn y gwledydd Ewropeaidd a restrir uchod, gallwch helpu atal mewnforio'r afiechyd ar rwydi, riliau, canŵau, gwisgoedd gwlyb, dillad ac esgidiau trwy wneud dau beth syml:
- Sychu'r holl offer yn drylwyr am o leiaf 48 awr. (Sychu yng ngolau haul mewn tymheredd uwchlaw 200C).
neu
- Gall diheintio trwy drochi offer mewn dŵr môr neu doddiant halen (crynodiad sodiwm clorid o 3% neu fwy) am o leiaf ddeg munud ladd y parasit. Dylid golchi'r holl offer yn drylwyr mewn dŵr tap wedyn.
Nid yw llongau môr sy'n dychwelyd o dramor yn achosi perygl oherwydd na all y parasit oroesi mewn dŵr môr ond dylid ystyried badau tendio neu offer arall a ddefnyddir mewn afonydd.
Gwybodaeth bellach