Wedi colli eich trwydded? - dyma’r camau i’w cymryd

A ydych wedi colli neu wedi difrodi eich trwydded? Os ydych, mae angen un newydd arnoch. Mynnwch wybod sut i gael gafael ar un yma.

Os ydych wedi colli neu wedi difrodi eich trwydded pysgota â gwialen, anfonwch lythyr byr atom yn esbonio’r hyn ddigwyddodd - er enghraifft ‘cafodd ei dinistrio yn y peiriant golchi’ - a nodwch eich enw llawn, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni, a rhif eich trwydded (os yw’r rhif gennych).


Bydd angen i chi gynnwys siec neu archeb bost am y gost ar gyfer un newydd. Dylai fod yn daladwy i ‘Asiantaeth yr Amgylchedd’ am £5 os ydych wedi colli trwydded lawn neu £1 am drwydded plentyn.  


Anfonwch eich llythyr at:


Administration Support Team (FAST)
PO Box 432
Warrington
WA4 1HH

Ar ôl cadarnhau eich manylion byddwn yn anfon trwydded newydd atoch yn y post.