Helpwch ni i leihau llygredd mewn afonydd
Wrth feddwl am lygredd mewn afonydd, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd ei fod yn dod o leoedd fel ffatrïoedd, ffermydd a diwydiant. Ond eto, yn y rhan fwyaf o achosion mae llygredd yn ein hafonydd yn dod o leoedd llai amlwg – ein cartrefi. Gallai gwaith plymio anghywir olygu bod dŵr gwastraff o beiriannau golchi llestri, peiriannau golchi, sinciau, baddonau a hyd yn oed toiledau yn cael ei fflysio'n uniongyrchol i afon leol. Mae’r pibellau hyn 'nad ydynt wedi'u cysylltu'n iawn' yn achos cyffredin o lygredd i'n hafonydd a'n nentydd, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd.
Mae i gyd yn dechrau gyda draenio
Fel arfer mae dau fath o ddraeniad - dŵr wyneb a dŵr brwnt.
- Mae draeniau dŵr wyneb neu ‘ddraeniau stormydd’ yn cludo dŵr glaw o wyneb heolydd a thoeau adeiladau i mewn i afonydd a nentydd lleol ac mae’n llifo i mewn i’r afon heb gael unrhyw driniaeth.
- Draeniau dŵr brwnt sy'n cludo dŵr gwastraff o doiledau, sinciau, baddonau ac offer yn y tŷ i'r gwaith trin carthion. Caiff y dŵr ei drin cyn y gall lifo’n ddiogel yn ôl i afonydd a nentydd.
Fodd bynnag, ceir system ddraenio gyfun mewn rhai tai ac mae hynny’n golygu bod y dŵr brwnt a'r dŵr wyneb yn draenio i'r garthffos frwnt. Os dyma’r sefyllfa, bydd yr holl ddŵr o’ch tŷ yn mynd i ganolfan carthffos i gael ei drin.
Sut gall draenio arwain at lygredd?
Os caiff offer tŷ eu cysylltu ar ddamwain â’r garthffos dŵr wyneb, yn hytrach nag â'r garthffos dŵr brwnt, bydd dŵr gwastraff o sinciau, toiledau a pheiriannau golchi'n mynd yn syth i gyrsiau dŵr.
Gall pobl sy’n gwneud eu gwaith plymwr eu hunain – ac weithiau plymwyr proffesiynol hyd yn oed – greu’r cysylltiadau anghywir ar ddamwain.
Sut mae’n effeithio ar gyrsiau dŵr?
Mae carthffrwd heb ei thrin yn peri i lefelau ocsigen mewn dŵr ddisgyn yn sylweddol, mae ffwng carthion yn gorchuddio gwely’r cwrs dwr fel blanced ac mewn achosion mwy difrifol ni fydd yr anfon yn gallu cynnal bywyd pysgod, pryfed a’r anifeiliaid sy’n byw yn y dŵr ac o’i gwmpas.
Beth rydym yn ei wneud am gysylltiadau anghywir?
Os yw cysylltiad anghywir yn debygol o achosi llygredd, bydd y cwmni dŵr lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ceisio darganfod o ba eiddo y mae'n dod. Rhoddir gwybod i ddeiliad y tŷ a’i gyfrifoldeb ef wedyn yw trefnu datrys y broblem.
Trosglwyddir manylion yr eiddo drwy i adran iechyd yr amgylchedd yn yr awdurdod lleol. Bydd swyddog iechyd yr amgylchedd yn rhoi hysbysiad gorfodi i ddeiliad y tŷ yn dweud wrtho i atgyweirio'r cysylltiad anghywir o fewn cyfnod penodedig, neu wynebu cael ei erlyn.
Beth allwch chi ei wneud?
Edrych ar y draeniau allanol i’ch eiddo i weld a yw’n edrych fel eu bod wedi cysylltu'n anghywir.