Polisi cysylltu a logo

Gwybodaeth am bolisi hyperddolenni Asiantaeth yr Amgylchedd.

Nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am gynnwys na sicrwydd gwefannau cysylltiedig ac nid yw o angenrheidrwydd yn cymeradwyo’r barnau a fynegir ynddynt. Ni ddylid ystyried rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser a nid oes gennym reolaeth ar argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Mae croeso ichi gysylltu â gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd, er na allwn ymgymryd â darparu cysylltiad dwyochrog. Os ydych yn cysylltu â’n gwefan a allech ddarparu manylion y safle rydych yn cysylltu ohono a’r dudalen rydych yn cysylltu â hi os gwelwch yn dda. Bydd hwn yn ein cynorthwyo wrth adnabod tudalennau poblogaidd ac wrth eich hysbysu o unrhyw newidiadau perthnasol. Anfonwch wybodaeth at:  webmaster@environment-agency.gov.uk os gwelwch yn dda.

Ni allwch ddefnyddio’n logos heb ganiatâd ffurfiol gennym.  Fel arfer nid ydym yn rhoi caniatâd i gwmnïau na sefydliadau masnachol a reoleiddir gennym oherwydd na ellir ein hystyried fel ein bod yn cefnogi na chymeradwyo unrhyw gwmni penodol. Yn lle, gallwch ddatgan eich bod wedi’ch cofrestru/trwyddedu gan ddyfynnu’ch rhif gofrestru/trwyddedu mewn unrhyw gyhoeddusrwydd.  Dan rai amgylchiadau byddwn yn rhoi caniatâd i sefydliadau rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw.  Gallwch ofyn am ganiatâd gan design.enquiries@environment-agency.gov.uk. Dywedwch wrthym pwy ydych chi, y sefydliad rydych yn ei gynrychioli (os oes un) a sut a pham y dymunwch ddefnyddio’n logo.