Prosesu bwyd a diod

Cheese production

Mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer busnesau sy’n prosesu bwyd a diod, gan gynnwys

  • diodydd a diodydd alcolholaidd
  • cynhyrchion popty a melysion
  • cynhyrchion llaeth
  • prosesyddion grawn
  • prydau parod a chynhyrchion coginio- oeri
  • cigoedd wedi’u prosesu a chynhyrchion cig
  • prosesu bwyd cynradd
  • bwyd anifeiliaid anwes
  • prosesu bwyd eilaidd, gan gynnwys pobi, rhewi, sychu, canio a photelu.

Sut all prosesu bwyd a diod effeithio ar yr amgylchedd?

Gall busnesau sy’n proses bwyd a diod gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
  • allyriadau i’r aer, er enghraifft o falu, swmp-drosglwyddo ac awyrellau seilos
  • halogiad tir, er enghraifft o sarnu olewau’n ddamweiniol a sut y defnyddiwyd y safle yn y gorffennol
  • llygredd sŵn, er enghraifft o symudiadau cerbydau, malu a llinellau pacio
  • gwaredu gwastraff, megis cynhyrchion wedi dyddio, plicion, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a llaid cyfarpar elifiant
  • gollyngiadau i ddŵr, er enghraifft o gyfarpar elifiant, gollyngiadau damweiniol a thyrrau oeri.  

Sut gall NetRegs eich helpu chi?

Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i: 

  • osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
  • cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
  • cwtogi ar eich costau  gweithredu
  • bod yn fwy tebygol o gaffael busnes  o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid  busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
  • gwella enw da  eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
  • gwella’r siawns o ennill noddiant  er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.