Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n cynhyrchu tecstilau a dillad. Mae’n cwmpasu nifer o weithgareddau gan gynnwys:
- cynhyrchu carped
- paratoi ffibr a nyddu
- gorffennu ffibrau naturiol a ffibrau a chymysgeddau synthetig
- cynhyrchu ffabrigau ac eitemau wedi’u gwau a’u crosio, a les, hosanau, a dillad wedi’u gwau
- cynhyrchu dillad, hetiau a chapiau, esgidiau a wnaed o decstil (heb wadnau), menig, beltiau a rhwydenni gwallt
- cynhyrchu eitemau nad ydynt wedi’u gwehyddu, gan ddefnyddio gwres, latecs neu brosesau mecanyddol
- cynhyrchu carpedi a llenni, clustogau, tecstilau ar gyfer y tŷ, llieiniau ar gyfer y tŷ, cwiltiau, falansiau a chwrlidau
- cynhyrchu rhaffau a chortynnau o edafedd o ffibrau naturiol (ee cotwm, jiwt a sisal) a ffibrau o waith dyn (ee neilon a pholypropylen)
- crafu, iro, barcio, cannu, cneifio a phlicio a lliwio crwyn ffwr
- gwehyddu brethynnau llydan, brethynnau cul, les, a thecstilau tu mewn a thu allan, a throi edafedd yn ffabrigau.
Beth yw’r effeithiau amgylcheddol potensial?
Gall cynhyrchwyr tecstilau a dillad gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- allyriadau i aer, er enghraifft o gyfansoddion organig anweddol (VOCs), nwyon anweithiol o dorri â laser a llwch o weithrediadau gorffennu
- halogiad tir, er enghraifft o ardaloedd storio cemegolion
- llygredd sŵn, er enghraifft o gyfarpar a pheiriannau gwaredu gwastraff, er enghraifft blawd llif wedi’i halogi, torion a chnawd ffwr, a chynhwyswyr cemegolion wedi’u halogi
- gollyngiadau i ddŵr, er enghraifft dŵr sy’n cynnwys lliwiau, pigmentau, siwgrau, sodiwm clorid a sodiwm sylffad
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.