Sŵn a dirgryniad

Gallai eich busnes wneud sŵn mewn llawer o ffyrdd. Mae ffynonellau sŵn yn cynnwys peiriannau, cerbydau a cherddoriaeth uchel.

Gallai eich gweithgareddau greu dirgryniad yn ogystal. Mae’r diffiniad o niwsans sŵn yn cynnwys dirgryniad, ac, yn fynych, rheolir sŵn a dirgryniad ar yr un pryd.

Os canfyddir bod y sŵn o’ch gwaith yn achosi niwsans i’r gymuned o’ch amgylch, gall eich cyngor lleol gyfyngu arnoch neu hyd yn oed eich atal rhag gweithio. Gallant gyfyngu ar:

  • y math o beiriant rydych yn ei ddefnyddio
  • eich oriau gweithio 
  • lefelau sŵn a allyrrir o’ch eiddo.

Gallai methu â mynd i’r afael â phroblem sŵn ddwyn achos cyfreithiol yn ei sgil a dirwy.

Gallwch ddefnyddio’r stoc o bren sydd gennych eisoes i weithredu fel rhwystr sŵn ar eich safle.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sŵn a osodir allan yn y caniatâd cynllunio ar gyfer eich safle.

Gall sŵn uchel achosi niwed di-droi’n- ôl i’r clyw. Mae gennych ddyletswydd i warchod clyw eich gweithwyr.


Register your burglar alarms

If your business is located in a designated alarm notification area you must:

  • register your burglar alarm with your local council
  • provide the details of a person who holds the keys
  • ensure the key holder knows how to use the alarm system.

You could be fined if you do not register. Contact your local council to find out if your business is in a alarm notification area.

Contact your local council

Protect your employees from loud noise

Loud noise can cause irreversible hearing damage. You must protect your employees’ hearing.

Health and Safety Executive: Noise 
Health and Safety Executive Northern Ireland

Check your permit conditions

If you have a Part A environmental permit (England and Wales) or a Part A pollution prevention and control (PPC) permit (Northern Ireland and Scotland), your permit may have conditions that control noise and vibration.

Business Link (England): Environmental permits - who needs one and how to comply
Pollution prevention and control permits
Business.Wales.gov.uk (Wales): Environmental permits - who needs one and how to comply

Arfer da

Nodwch fannau ble gallai sŵn achosi niwsans a lleoli gweithgareddau swnllyd i ffwrdd o’r mannau hyn. Lleolwch offer swnllyd i ffwrdd o ffin eich safle. Gellir defnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes er mwyn clustogi ffynhonnell y sŵn.

Sicrhewch fod eich adeiladau wedi’u seinglosio’n ddigonol. Bydd cau eich drysau a’ch ffenestri’n lleihau sŵn yn ogystal.

Defnyddiwch ffensys solet wedi’u panelu o amgylch eich safle yn lle ffensys weiar; gall hyn helpu i sgrinio’r ffynhonnell o sŵn a lleihau lefel y sŵn sy’n gadael y safle.

Safwch du allan i ffin y safle a gwrando am sŵn y gallai cymdogion ei ystyried yn boendod. Os gallwch chi glywed sŵn, gallant hwy hefyd - bydd angen i chi fod yn onest â chi eich hunan.

Lleihewch sŵn o’ch offer a’ch cerbydau

Triniwch eich cerbydau a’ch peiriannau’n rheolaidd. Bydd offer a gynhaliwyd yn dda yn gwneud llai o sŵn ac mae’n llai tebygol o dorri i lawr.

Gosodwch ddyfeisiau sy’n lleihau sŵn, fel distawyddion a bafflau, i’ch peiriannau.

Pan fyddwch yn adnewyddu offer, ystyriwch brynu rhai gwahanol, tawelach. Gall offer newydd gyflwyno problem sŵn ble nad oedd un yn bodoli’n flaenorol. Dylech wneud asesiad sŵn pan fyddwch yn gosod darn newydd o offer.

Defnyddiwch drydan o’r prif gyflenwad yn lle generaduron disel.

Lleihewch y defnydd a wneir o larymau bacio cerbydau. Er enghraifft, sefydlwch system gyrru unffordd  ar eich safle. Ystyriwch osod larwm bacio band llydan, oherwydd gall hyn leihau lefel y sŵn a gynhyrchir ar y safle.

Lleihewch sŵn o’ch cerbydau trwy:

  • ddiffodd injans pan na ddefnyddir nhw
  • gwirio fod y breciau wedi’u gosod yn iawn ac nid ydynt yn gwichian
  • peidio â refio’r injan yn ddiangen
  • defnyddio’r corn mewn argyfyngau’n unig
  • adnewyddu systemau ecsóst cyn gynted â’u bod yn mynd yn swnllyd
  • adnewyddu cerbydau â rhai gwahanol a yrrir gan drydan neu nwy.

 

Limit noisy activities to daylight hours

Noise is more likely to be a nuisance at night. In noise sensitive locations you should:

  • restrict deliveries to daytime working hours
  • schedule noisy operations for the daytime
  • switch off unnecessary radios and tannoys.

If you operate a night shift, move materials into the work area during the day or early evening. This will reduce the risk of complaints from the local community.

Noise from alarms

Prevent your burglar alarms from causing a nuisance by ensuring that:

  • you have a maintenance contract and a callout agreement
  • the alarm automatically shuts down after no longer than 20 minutes.

Your local council can get permission to enter your premises to silence persistent or recurring alarms.

  Lleihewch gwynion

Mae’n fanteisiol i chi gynnal cydberthnasau da gyda’ch cymdogion. Rhowch rybudd cynnar i gymdogion ynghylch unrhyw weithgareddau arbennig o swnllyd rydych yn bwriadu eu gwneud.

Rhowch wybod i’ch Adran Iechyd Amgylcheddol leol neu swyddfa’ch rheolydd amgylcheddol am unrhyw ddigwyddiad sy’n debygol o achosi lefelau uchel o sŵn a allai achosi cwynion.

Arddangoswch fanylion person cyswllt ar gyfer eich safle. Yna gall trigolion lleol gysylltu â chi ag unrhyw bryderon. Gallwch fynd i’r afael â nhw’n gyflym wedyn.

Anogwch eich Swyddog Iechyd Amgylcheddol lleol a’ch rheolydd amgylcheddol i roi gwybod i chi ynghylch unrhyw bryderon neu gwynion. Mae’n bosibl gallwch ddelio â’r cwynion hyn cyn gweithredir yn ffurfiol yn eich erbyn.

Os ydych yn derbyn cwyn, sicrhewch eich bod yn:

 
  • cadw cofnod ohoni
  • delio â’r gŵyn yn ddi-oed ac mewn modd addas, a dweud wrth y sawl a gwynodd beth rydych wedi’i wneud
  • cofnodi canlyniadau unrhyw ymchwiliadau ac unrhyw weithredoedd canlyniadol
  • defnyddiwch yr wybodaeth i wella eich gweithdrefnau ac atal cwynion pellach.

Cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol

Monitrwch lefelau sŵn

Dylech fonitro’r sŵn o’ch safle’n rheolaidd, pan ei fod yn llwyr weithredol, a hefyd pan ei fod ar gau. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o effaith eich gwaith ar y gymuned o’ch amgylch. Bydd monitro sŵn yn eich helpu, yn ogystal, i nodi unrhyw newid yn lefel y sŵn o’ch busnes.

Ym mhob achos, os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech ymofyn am gyngor oddi wrth arbenigwr sŵn.

Gwybodaeth bellach  

See our guidance on noise, odour and other nuisances in:

England on Business Link: Noise, odour and other nuisances
Northern Ireland on NIBusinessInfo: Noise, odour and other nuisances
Scotland on Business Gateway: Noise, odour and other nuisances
Wales on Business.Wales.gov.uk: Noise, odour and other nuisances

Defra: Sŵn
SEPA: Sŵn – crynodeb o gyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr PPC (Yr Alban) (Adobe PDF - 71KB)
Cyswllt Busnes: Ymdrin â sŵn a llygredd sŵn
Cymunedau a Llywodraeth Leol: Cyfarwyddyd Polisi Cynllunio 24 – Cynllunio a Sŵn 
Llywodraeth yr Alban: Nodyn Cyngor Cynllunio 56 – Cynllunio a Sŵn

Hwyrach bydd y Safonau Prydeinig canlynol yn ddefnyddiol i chi:

  • Safon Brydeinig BS4142 – Dull o fesur sŵn diwydiannol sy’n effeithio ar ardaloedd trigiannol a diwydiannol cymysg 
  • Safon Brydeinig BS5228 – Rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu ac agored 
  • Safon Brydeinig BS6472 – Canllaw i werthuso amlygiad pobl i ddirgryniad mewn adeiladau 
  • Safon Brydeinig BS7385 – Gwerthuso a  mesur dirgryniad mewn adeiladau

Mae’r rhain ar gael oddi wrth Safonau Prydeinig Ar-lein. Gallwch brynu copïau o’r safonau llawn neu edrych ar grynodebau trwy gofrestru ar eu gwefan.

Safonau Prydeinig Ar-lein

Croes-halogiad

Cadwch groes- halogiad deunyddiau i isafswm. Er enghraifft, os ydych yn rhoi plastigau neu bapur yn ddamweiniol i mewn i wahanyddion cerrynt trolif, sy’n gwahanu alwminiwm a dur yn fagnetig, medrwch dagu a chau’r peiriannau, cynyddu sŵn a dirgryniad ac achosi difrod drud.