Mae cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n ffermio pysgod a physgod cregyn, pysgota masnachol ac sy’n rhedeg pysgodfeydd mewndirol.
Sut gall pysgota ac acwafeithrin effeithio ar yr amgylchedd?
Gall busnesau pysgota ac acwafeithrin gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- halogi tir, er enghraifft drwy sarnu olew a chemegolion
- llygredd sŵn, er enghraifft o eneraduron
- gwaredu gwastraff, megis pysgod marw a deunyddiau lapio
- gollyngiadau o ddŵr, er enghraifft o ddefnyddio cemegolion mewn cewyll dŵr croyw neu fôr.
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.