Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n cynhyrchu gwydr, crochenwaith, plastr, sment a deunyddiau sgraffinio. Darparir cyfarwyddyd yn ogystal ar gyfer sy’n gwlychu calch neu dorri a gorffennu cerrig.
Sut gall gwneuthur cynhyrchion mwnol effeithio ar yr amgylchedd?
Gall busnesau sy’n gwneuthur cynhyrchion mwnol gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- allyriadau i aer, er enghraifft llwch o ddadlwytho, storio a chymysgu deunyddiau crai neu ocsidiau a gronynnau o brosesau toddi gwydr
- llygredd sŵn, er enghraifft o wageni, dosbarthiadau a gweithrediadau mathru
- gwaredu gwastraff, megis gwaredu deunyddiau sylffad uchel fel plastr
- rheoli gwastraff, fel malu concrid neu deils i’w hailddefnyddio fel deunyddiau crai ac ailddefnyddio dŵr gwastraff proses
- gollyngiadau o ddŵr, er enghraifft o weithrediadau glanhau, oeri a diffodd neu o brosesu trin dŵr proses.
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.