Seilos

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

Os ydych yn trosglwyddo  deunyddiau powdwr i seilos storio gan ddefnyddio aer cywasgedig fel cyfrwng cludo, rhaid i chi fod yn ofalus nad aiff y seilo yn bwyseddedig. Os aiff y seilo yn orbwyseddedig, gall rwygo, neu gall chwythu’r uned hidlo allan o’r seilo hwnnw.

Medrai unrhyw ddeunydd sy’n sarnu o seilo achosi llygredd, yn arbennig os aiff i mewn i ddraeniau dŵr wyneb neu gyrsiau dŵr. Adroddwch am ddigwyddiadau o lygredd cyn gynted ag y bônt yn digwydd i’r llinell argyfwng ar 0800 80 70 60.

Gellir achosi gormod o bwysedd gan:

  • ormod o bwysedd yn yr aer a ddosbarthir o’r tancer
  • defnyddio hidlwr yn y seilo sy’n rhy fach i’r llif aer trwy’r seilo neu
  • ddefnyddio hidlwr o’r maint anghywir ar gyfer maint y seilo.

Arfer da

Er mwyn lleihau y perygl o’r seilo’n rhwygo:

  • osgowch ddosbarthu deunyddiau i mewn i seilos ar raddfa a fydd yn achosi pwyseddiad, yn arbennig tua ddiwedd y dosbarthu pan fod faint o ddeunydd sy’n mynd i mewn i’r tiwbiau yn mynd yn llai ac mae’r llif aer yn cynyddu
  • cyfrifwch faint cywir yr hidlwr; rhaid iddo gyd-fynd â chyflymdra’r aer yn llifo drwy’r seilo
  • glanhewch systemau hidlo yn rheolaidd er mwyn eu hatal rhag blocio ac atal powdwr rhag crynhoi yn y system hidlo
  • gwiriwch am allyriadau yn weledol yn ystod pob dosbarthiad
  • gosodwch system ar bob seilo newydd sy’n cau’n awtomatig pe digwydd pwyseddiad neu orlenwi
  • archwiliwch beiriannau trwm ac offer yn rheolaidd, gan gynnwys cysylltiadau llinell trosglwyddo, falfiau rhyddhau pwysedd a systemau diogelwch.

Yn ystod pob swmp-ddosbarthiad, gwyliwch gysylltiadau mewndyllau seilos a chyfarpar atal y seilo am allyriadau.

Cadwch gofnod o’r math o ddeunydd a ddosbarthir, ac amseroedd cychwyn a gorffen pob dosbarthiad er mwyn helpu i olrhain beth sy’n achosi unrhyw ddigwyddiad.

Lle mae eich cyflenwr yn defnyddio cerbyd ffordd er mwyn dosbarthu deunydd i seilos, lle bynnag y bo modd dylai hwn fod yn dancer gyda falf rhyddhau arno (wedi’i osod ar y wagen) a system hidlo.

Gosodwch larymau neu ddangosyddion cyfaint ar danciau storio mewn crynswth a seilos sy’n cynnwys deunyddiau sych er mwyn darparu rhybudd o orlenwi.