Gall eich busnes greu dŵr gwastraff trwy amrediad o weithrediadau gan gynnwys:
- glanhau
- dŵr fflysio o brosesau gwneuthur
- caboli ag asid, caboli neu ysgythru sy’n creu dŵr strelio asid
- oeri offer torri cerrig a chludo deunydd mân
- gweithrediadau diffodd ac oeri.
Gall dŵr gwastraff gynnwys cyfraddau uchel o solidau mewn daliant neu halogwyr eraill. Bydd eich gweithgareddau busnesau yn pennu natur yr halogwyr hyn. Er enghraifft:
- gall dŵr gwastraff crochenwaith gynnwys gronynnau clai, gwydredd a sylweddau wedi’u toddi fel sylffadau neu fetelau trwm
- gall dŵr gwastraff o ardaloedd lle ceir deunydd swp wedi’i sarnu o gynhyrchu gwydr gynnwys metelau neu gyfansoddion metel
- bydd dŵr gwastraff o dorri cerrig yn cynnwys lefelau uchel o ronynnau mân
- bydd dŵr o lanhau a golchi cymysgwyr concrid yn hynod alcalïaidd a bydd yn cynnwys solidau.
Beth sy’n rhaid i chi ei wneud
Sefydlwch yn union beth sydd yn y dŵr gwastraff y mae eich gweithrediadau yn ei gynhyrchu. Gall fod angen i chi drefnu i gael profion wedi’u gwneud mewn labordy ar samplau o’ch dŵr.
Penderfynwch p’un ai y medrwch ailddefnyddio’r dŵr gwastraff o fewn eich proses ac os felly, p’un ai oes angen i chi ei drin cyn y gallwch eich ailddefnyddio. Er enghraifft:
- bydd yn rhaid i chi niwtraleiddio dŵr strelio asid o bryd i’w gilydd
- bydd dŵr rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer golchi cymysgwyr concrid yn hynod alcalïaidd a gall fod yn rhaid i chi ei niwtraleiddio cyn i chi ei ailddefnyddio
- gall fod angen i chi yrru unrhyw ddŵr gwastraff sy’n cynnwys solidau mewn daliant trwy danc gwaddodi neu ei ddogni â chlystyrydd cyn y gallwch ei ailddefnyddio.
Er mwyn ailddefnyddio dŵr gwastraff neu er mwyn trin dŵr gwastraff gall fod angen i chi gaffael trwydded rheoli gwastraff neu gofrestru eithriad.
Mae eithriad yn eich caniatáu i adennill neu waredu gwastraff yn y fan lle cynhyrchwyd ef. Mae hyn yn unig os cafodd y gwastraff ei greu o ran annatod o’r broses gynhyrchu.
Fel rheol bydd angen i chi gofrestru eithriad gyda’ch rheolydd amgylcheddol ar gyfer y gweithgareddau hyn.
Rhaid i chi barhau i sicrhau nad yw eich gweithgarwch yn:
- peryglu iechyd dynol nac achosi llygredd i ddŵr, aer na phridd
- peri risg i blanhigion nac anifeiliaid
- achosi niwsans o safbwynt sŵn, llwch, tarthau, mwg nac aroglau
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.
Ni fedrwch waredu gwastraffau hylif mewn safleoedd tirlenwi.
Os nad allwch ailddefnyddio eich dŵr gwastraff fel rhan o’ch proses, mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi ei drin er mwyn cael gwared ar unrhyw halogwyr cyn i chi ei waredu.
Gallech drin dŵr gwastraff ar eich eiddo neu gellid gwneud hyn oddi ar y safle gan gontractwr. Os yw eich dŵr gwastraff yn gadael eich safle i’w drin yn rhyw fan arall, bydd y dyletswydd o ofal yn berthnasol iddo.
Os ydych yn penderfynu trin dŵr gwastraff ar eich eiddo, bydd angen i chi gyflogi arbenigwr er mwyn dylunio, gosod a chomisiynu proses trin addas. Dylai’r broses trin sicrhau y bydd ansawdd y dŵr gwastraff ar ôl ei drin yn eich caniatáu i’w ollwng:
- i’r garthffos fudr, yn ddarostyngedig i ganiatâd oddi wrth yr ymgymerwr dŵr statudol
- i ddŵr wyneb neu ddŵr daear, yn ddarostyngedig i ganiatâd oddi wrth eich rheolydd amgylcheddol..
Os ydych yn caniatáu i ddŵr gwastraff fynd i mewn i’r ddaear, cyrsiau dŵr, draeniau dŵr wyneb neu garthffosydd dŵr budr heb ganiatâd, gallwch fod yn cyflawni trosedd.