Dŵr ffo o ierdydd

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

Darparwch ddigon o gynhwysedd gwaddodi ar gyfer dŵr ffo o ierdydd a dŵr golchi o wageni. Lle y bo modd, ailddefnyddiwch ddŵr o gyfleusterau gwaddodi o fewn eich prosesau busnes.

Sicrhewch eich bod yn rhoi mesurau digonol ar waith er mwyn atal dŵr ffo a dŵr golchi o’ch safle rhag mynd i mewn i a llygru draeniau a chyrsiau dŵr.

Cysylltwch ardaloedd lle derbynnir dosbarthiadau â’r system draenio budr, oherwydd mae dŵr ffo yn debygol o achosi halogiad.

Rhaid i chi gaffael caniatâd oddi wrth eich cwmni dŵr neu awdurdod dŵr cyn cysylltu â’r system draenio.

Defnyddiwch fyndiau treiglol, a mynediad ag esgynfa neu risiau, er mwyn ynysu’r ardal o’r system dŵr wyneb.

Os oes modd, gosodwch biblinellau uwch ben y ddaear a’u gwarchod rhag difrod oherwydd gwrthdrawiadau. Os gosodir piblinell dan y ddaear, dylech:

  • o ddewis, osgoi ffyrdd lle gall llwythi sy’n cael eu cludo heibio ar gerbydau achosi i’r biblinell dorri
  • dylai fod wedi’i pheiriannu er mwyn gwrthsefyll pob llwyth a straen y gellid eu disgwyl yn rhesymol
  • ei gosod mewn llawes gwrth– ddiferiad neu gwndid
  • adeiladu siambrau archwilio ar ei uniadau gan mai’r rhain yw mannau mwyaf tebygol o ddiferu 
  • ei archwilio a’i rhoi ar brawf yn rheolaidd.
Peidiwch â chysylltu cwndidau piblinellau â’r system draenio dŵr wyneb.

Arfer da

Gall lleihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio arbed arian i chi, a bydd yn lleihau eich effaith ar yr amgylchedd. Gallwch nodi mannau lle medrwch wneud arbediadau trwy adolygu faint o ddŵr a ddefnyddiwch yn rheolaidd.

Lle mae deunyddiau crai yn cymysgu â dŵr gall y dŵr ffo canlyniadol fod yn llygrol dros ben. Er enghraifft:

  • Os bydd llwch sment ar eich iard yn cymysgu gyda dŵr glaw, bydd y dŵr ffo canlyniadol yn alcalïaidd iawn (pH o rhwng 9.5  a 14). Mae dŵr sy’n alcalïaidd iawn hefyd yn wenwynig iawn i fywyd y dŵr.
  • Lle mae plastr sych yn cymysgu gyda dŵr, bydd y dŵr ffo canlyniadol yn cynnwys llawer o solidau mewn daliant.

Lle mae dŵr ffo o ierdydd yn debygol o fod wedi cymysgu gyda deunyddiau crai neu gemegolion proses, ni ddylech ei ganiatáu i fynd i mewn i gyrsiau dŵr neu’r garthffos fudr heb awdurdodiad ysgrifenedig o flaen llaw. Daliwch ef ac os y bo’r angen, trefnwch i samplau gael eu rhoi ar brawf mewn labordy er mwyn dod o hyd i’r dull mwyaf addas o’i waredu.

Lle y bo modd, yn lle golchi’r ardal hon â phibell ddŵr, dylech ysgubo deunyddiau wedi’u sarnu at ei gilydd.