Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n atgynhyrchu cyfryngau sain neu weledol, mae hyn yn cynnwys:
recordio ar dapiau magnetig
recordio ar recordiau finyl
cynhyrchu CDd a DVDs.
Sut gall busnesau cyfryngau wedi’u recordio effeithio ar yr amgylchedd?
Gall busnesau sy’n recordio CDd, DVD, tâp magnetig a finyl gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- allyriadau aer, er enghraifft o storio neu ddefnyddio toddyddion
- halogiad tir, er enghraifft o golledion cemegol neu sut y defnyddiwyd y tir yn y gorffennol
- gwaredu gwastraff, fel cludo cemegolion neu leidiau gwastraff ymaith mewn tancer, gollyngiadau dŵr er enghraifft o gynhyrchu prif recordiadau finyl, a draeniad o dai bach, sinciau neu gantinau.
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.