Gofal iechyd

Tabledi meddyginiaethMae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n darparu gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig. Er enghraifft, cartrefi gofal, therapyddion amgen a fferyllfeydd cymwysedig.

Sut gall darparwyr gofal iechyd effeithio ar yr amgylchedd?

Gall darparwyr gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:

  • allyriadau aer, er enghraifft o’ch bwyleri, cerbydau, cyfleusterau cegin a londri
  • defnyddio ynni, er enghraifft o offer a pheiriannau, goleuadau, a gwresogi ac oeri
  • halogi tir, er enghraifft o golledion damweiniol o gemegolion ac olew a halogiad potensial o sut y defnyddiwyd eich safle yn y gorffennol
  • llygredd sŵn, o ffynonellau fel offer, peiriannau, derbyn cyflenwadau a symudiadau cerbydau yn gyffredinol
  • gwaredu gwastraff, er enghraifft gwastraff bwyd, gwastraffau clinigol, gwastraff a fedrai fod yn heintus, meddyginiaethau nad oes eu heisiau, meddyginiaethau wedi’u hysgarthu a’u cynhyrchion ymddatod a gosodiadau a ffitiadau treuliedig
  • defnyddio dŵr, er enghraifft dyfrhau tiroedd, a defnyddio dŵr mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi a thai bach.

Sut gall NetRegs eich helpu chi?

Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i: 

  • osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
  • cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
  • cwtogi ar eich costau  gweithredu
  • bod yn fwy tebygol o gaffael busnes  o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid  busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
  • gwella enw da  eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
  • gwella’r siawns o ennill noddiant  er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.