Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n cyhoeddi, argraffu neu orffennu deunyddiau ysgrifenedig neu luniau.
Sut all busnesau argraffu a chyhoeddi effeithio’r amgylchedd?
Gall busnesau argraffu a chyhoeddi gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- allyriadau i aer, er enghraifft o inciau wedi’u seilio ar doddyddion, toddyddion o weithrediadau diseimio ac osôn o lampau uwchfioled neu ollyngiadau corongylch
- halogiad tir, er enghraifft o sarnu toddyddion neu gemegolion eraill
- llygredd sŵn, er enghraifft o weithredu offer
- gwaredu gwastraff, er enghraifft gwaredu hylifau proses, lleidiau cemegol a deunyddiau i’w hailgylchu
- gollyngiadau dŵr, er enghraifft o gynhyrchu sgriniau neu olchi platiau.
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.