Gall eich busnes fod angen caniatâd amgylcheddol (Cymru a Lloegr) neu ganiatâd atal a rheoli llygredd (PPC) (Gogledd Iwerddon a’r Alban) oddi wrth eich rheolydd amgylcheddol neu gyngor lleol. Er enghraifft, bydd angen caniatâd arnoch os oes gan eich busnes gynhwysedd cynhyrchu uwch ben lefel penodol neu os ydych yn defnyddio sylweddau peryglus penodol.
Mae categorïau gwahanol o ganiatâd:
- Cymru a Lloegr: caniatâd amgylcheddol Rhan A(1), Rhan A (2) neu Ran B
- Gogledd Iwerddon: caniatâd PPC Rhan A, Rhan B neu Ran C
- Yr Alban: caniatâd PPC Rhan A neu Ran B
Mae NetRegs yn darparu cyfarwyddyd manwl yn unig ar gyfer busnesau sydd angen caniatadau Rhan B neu C.
Gweithgareddau Rhan A
Nid yw NetRegs yn darparu cyfarwyddyd cynhwysfawr ar gyfer busnesau sy’n gweithredu gyda chaniatâd oddi wrth eu rheolydd amgylcheddol o dan:
- Rhan A(1) a Rhan A(2) o ganiatáu amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr
- Rhan A atal a rheoli llygredd (PPC) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.
- Rheoli llygredd integredig (IPC) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae’r maes deddfwriaeth hwn yn un cymhleth. Am wybodaeth gyffredinol ynghylch sut rheoleiddir safleoedd Rhan A, gweler cyfarwyddyd caniatadau amgylcheddol a chaniatadau PPC NetRegs.
Caniatadau amgylcheddol
Caniatadau Atal a Rheoli Llygredd
Un enghraifft o weithgarwch a reoleiddir o dan Rhan A yw defnyddio toddyddion organig er mwyn trin wynebau sylweddau, pethau neu gynhyrchion. Gallai hyn fod ar gyfer trin, argraffu, cotio, diseimio, peintio, glanhau neu drwytho mewn cyfarpar gyda’r gallu i ddefnyddio mwy na 150kg yr awr neu fwy nag 20 tunnell y flwyddyn.
Gweithgareddau PPC Rhan B (Cymru, Lloegr a’r Alban)
Un enghraifft o weithgarwch argraffu sydd angen caniatâd Rhan B yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yw os ydych yn taenu inc, paent neu unrhyw ddeunydd cotio arall i is-wyneb, neu’n sychu neu galedu deunyddiau ar ôl eu taenu, lle gall y broses achosi i ddeunydd gronynnol neu gyfansoddion organig anweddol gael eu rhyddhau i’r aer, ac mae’n debygol o ymwneud â defnyddio, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis:
- 20 tunnell o ddeunydd cotio metel a chwistrellir ar ffurf tawdd
- 20 tunnell neu fwy o inc argraffu, paent neu ddeunydd cotio arall daenir ar ffurf solet
- 25 tunnell neu fwy o doddyddion organig yng nghyswllt unrhyw weithgarwch argraffu offset gwe a osodir yn oer neu unrhyw weithgarwch argraffu litho offset a fwydir fesul dalen neu
- 5 tunnell neu fwy o doddyddion organig yng nghyswllt unrhyw weithgarwch na grybwyllir mohono uchod.
Gweithgareddau PPC Rhan B a C (Gogledd Iwerddon)
Un enghraifft o weithgarwch argraffu sydd angen caniatâd Rhan B yng Ngogledd Iwerddon yw os ydych yn taenu inc, paent neu unrhyw ddeunydd cotio arall i is-wyneb, neu’n sychu neu galedu deunyddiau ar ôl eu taenu, lle gall y broses achosi i ddeunydd gronynnol neu gyfansoddion organig anweddol gael eu rhyddhau i’r aer, ac mae’n debygol o ymwneud â defnyddio, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 400 tunnell neu fwy o inc argraffu, paent neu ddeunydd cotio arall a daenir ar ffurf solet.
Un enghraifft o weithgarwch argraffu sydd angen caniatâd Rhan C yng Ngogledd Iwerddon yw os ydych yn taenu inc, paent neu unrhyw ddeunydd cotio arall i is-wyneb, neu’n sychu neu galedu deunyddiau ar ôl eu taenu, lle gall y broses achosi i ddeunydd gronynnol neu gyfansoddion organig anweddol gael eu rhyddhau i’r aer, ac mae’n debygol o ymwneud â defnyddio, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis:
- 20 tunnell o ddeunydd cotio metel a chwistrellir ar ffurf tawdd
- 20 tunnell neu fwy o inc argraffu, paent neu ddeunydd cotio arall daenir ar ffurf solet
- 25 tunnell neu fwy o doddyddion organig yng nghyswllt unrhyw weithgarwch argraffu offset gwe a osodir yn oer neu unrhyw weithgarwch argraffu litho offset a fwydir fesul dalen neu
- 5 tunnell neu fwy o doddyddion organig yng nghyswllt unrhyw weithgarwch na grybwyllir mohono uchod.
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn darparu rhestr gyflawn o weithgareddau caniatáu amgylcheddol (Cymru a Lloegr) neu weithgareddau PPC (Gogledd Iwerddon a’r Alban). Os ydych yn ansicr p’un ai yr effeithir arnoch gan ganiatáu amgylcheddol neu PPC, cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol neu gyngor lleol.
Cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol
Cysylltwch â’ch cyngor lleol