Storio olew a chemegolion

Rhaid i chi storio a thrafod olew a chemegolion yn ddiogel er mwyn osgoi digwyddiadau o lygredd.

Dylech geisio defnyddio cyn lleied ag y gallwch o sylweddau peryglus. Adolygwch y sylweddau peryglus rydych yn eu defnyddio yn rheolaidd, a ble bo modd, defnyddiwch sylweddau amgen llai peryglus.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

Storio olew

In England, Northern Ireland and Scotland, if you store any kind of oil on your premises you may need to comply with the Oil Storage Regulations.

In Wales the Oil Storage Regulations do not apply.

Even if the regulations do not apply to your business, you should consider meeting their requirements, as they aim to prevent contamination of the ground, surface waters and groundwater. This would be an offence under other legislation.

See our guidance on storing oil in:

England on Business Link: Storing oil
Northern Ireland on NIBusinessInfo: Storing oil
Scotland on Business Gateway: Storing oil
Wales on Business.Wales.gov.uk: Storing oil

Cyflenwi cemegolion

Os ydych yn cyflenwi unrhyw ddefnydd neu gemegolion a fedrent fod yn beryglus, gall fod angen i chi ddarparu dalen ddata diogelwch  (SDS). Mae’r SDS yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut ddylech drafod, storio a gwaredu cemegolion a beth i’w wneud os ceir damwain.

Os ydych yn derbyn defnydd heb SDS, cysylltwch â’ch cyflenwr er mwyn canfod p’un ai oes angen iddynt ddarparu un.

Atal damweiniau mawr

Os ydych yn storio neu’n defnyddio sylweddau peryglus, fel olew neu gemegolion penodol, gwiriwch p’un ai yw’r Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH) yn effeithio arnoch chi.

See our guidance on COMAH in:

England on Business Link: Control of major accident hazards (COMAH)
Northern Ireland on NIBusinessInfo: Control of major accident hazards (COMAH)
Scotland on Business Gateway: Control of major accident hazards (COMAH)
Wales on Business.Wales.gov.uk: Control of major accident hazards (COMAH)

Arfer da

Storio cemegolion

Storiwch bob cemegolyn mewn ardal ble gallwch ddal colledion. Cadwch gynwysyddion cemegol o fewn ardal anhydraidd â chyfyngiant eilaidd a fydd yn dal hylifau os yw’r prif gynwysyddion yn gollwng neu dorri.

Mae ardaloedd cyfyngiant eilaidd yn cynnwys byndiau, paledau â bwnd neu baledau colledion, paledau sỳmp, unedau storio â bwnd a chypyrddau storio gyda sympiau integrol.

Os oes gennych un cynhwysydd storio olew mewn bwnd, rhaid i’r bwnd fedru dal 110% o’i gyfaint.

Os oes gennych fwy nag un cynhwysydd, rhaid i’ch bwnd fedru dal o leiaf 110% o gyfaint y cynhwysydd mwyaf neu 25% o gyfanswm y cyfaint rydych yn debygol o’i storio, p’un bynnag sydd fwyaf.

Cynnal a chadw ardaloedd storio

Rhowch do dros bob ardal storio ble bynnag y bo modd er mwyn atal glaw rhag crynhoi.

Archwiliwch fyndiau’n rheolaidd a thynnu unrhyw ddŵr glaw ohonynt. Os yw’r dŵr wedi’i halogi gall fod angen i chi ei waredu fel gwastraff peryglus/arbennig.

See our guidance on hazardous/special waste in:

England on Business Link: Managing your hazardous waste
Northern Ireland on NIBusinessInfo: Managing your hazardous waste
Scotland on Business Gateway: Managing your hazardous waste
Wales on Business.Wales.gov.uk: Managing your hazardous waste

Gosodwch danciau storio mor bell i ffwrdd ag y medrwch o ddraeniau a chyrsiau dŵr.

Gosodwch ddyfeisiau synhwyro diferiadau mewn tanciau a byndiau storio olew a chemegolion.

Clowch danciau storio pan na ddefnyddir nhw, er mwyn atal mynediad diawdurdod iddynt a lleihau’r perygl o fandaliaeth. Chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddigwyddiad o lygredd o’ch safle, hyd yn oes os achoswyd ef gan fandaliaid.

Labelwch bob tanc yn glir gyda’i gynnwys a’i gynhwysedd storio, er mwyn atal gorlenwi cynwysyddion storio neu eu llenwi’n anghywir.

Cynhaliwch bob cyfarpar, gwaith pibellau a seilwaith arall yn rheolaidd.

Rhowch unrhyw waith pibellau dan y ddaear ar brawf yn rheolaidd am ddiferiadau.

Derbyn danfoniadau o ddefnyddiau

Goruchwyliwch bob gweithrediad ail-lenwi â thanwydd ac ail-lenwch â thanwydd yn unig mewn ardal â chyfyngiant i ffwrdd o gyrsiau dŵr neu ddraeniau dŵr wyneb.

Defnyddiwch hambyrddau diferu ar gyfer bob offer a phan fyddwch yn ail-lenwi cynwysyddion.

Colledion a digwyddiadau o lygredd

Meddwch ar weithdrefn ymateb i ddigwyddiad o lygredd ar gyfer delio â cholledion. Sicrhewch fod pob aelod o’r staff yn gyfarwydd â’r weithdrefn ac yn gwybod sut i’w rhoi ar waith.

PPG 21 Cynllunio ymateb i ddigwyddiad o lygredd (Adobe PDF - 112KB)

Cadwch git colledion yn agos i ardaloedd storio olew a chemegolion. Sicrhewch fod eich staff yn gwybod ble cedwir ef a sut i’w ddefnyddio. 

Sicrhewch fod gennych ddefnyddiau amsugnol ac offer cyfyngiant arall sy’n addas ar gyfer y math a’r cyfaint o danwydd, olew a chemegolion rydych yn eu storio a’u defnyddio ar y safle.

Rhowch wybod am ddigwyddiadau o lygredd cyn gynted ag y bônt yn digwydd i’r llinell argyfwng ar 0800 80 70 60.

Gwybodaeth bellach