Gall eich busnes fod angen caniatâd amgylcheddol (Cymru a Lloegr) neu ganiatâd atal a rheoli llygredd (PPC) (Gogledd Iwerddon a’r Alban) oddi wrth eich rheolydd amgylcheddol neu gyngor lleol. Er enghraifft, bydd angen caniatâd arnoch os oes gan eich busnes gynhwysedd cynhyrchu uwch ben lefel penodol neu os ydych yn defnyddio sylweddau peryglus penodol.
Mae categorïau gwahanol o ganiatâd PPC:
- Rhan A(1) a Rhan A(2) caniatáu amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr
- Rhan A o atal a rheoli llygredd (PPC) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban
- Rheoli llygredd integredig (IPC) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae NetRegs yn darparu cyfarwyddyd manwl yn unig ar gyfer busnesau sydd angen caniatadau Rhan B neu C.
Fel rheol nid oes angen caniatadau Rhan B neu C ar weithgareddau amaethyddol.
Gweithgareddau Rhan A
Gall eich fferm fod angen caniatâd amgylcheddol (Cymru a Lloegr) neu ganiatâd atal a rheoli llygredd (PPC) (Gogledd Iwerddon a’r Alban) oddi wrth eich rheolydd amgylcheddol os oes ganddi fwy na:
- 2,000 o lefydd ar gyfer moch cynnyrch sydd yn pwyso mwy na 30cg
- 750 o lefydd i hychod
- 40,000 o lefydd i ddofednod, gan gynnwys hwyaid a thyrcwn.
Os ydych yn sefydlu fferm moch a dofednod newydd sy’n dod o dan ganiatáu amgylcheddol neu reoliadau PPC bydd yn rhaid i chi ddal caniatâd Rhan A cyn y gallwch weithredu.
Os ydych yn bodloni’r amodau i gael eich cynnwys yn Rhan A, dylech gyfeirio bob amser at y canllawiau cyffredinol a phenodol i’r sector a gyhoeddir gan eich rheolydd amgylcheddol.
Nid yw NetRegs yn darparu cyfarwyddyd cynhwysfawr ar gyfer busnesau sy’n gweithredu gyda chaniatâd oddi wrth eu rheolydd amgylcheddol o dan:
- Rhan A(1) a Rhan A(2) Caniatáu Amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr
- Rhan A o atal a rheoli llygredd (PPC) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban
- Rheoli llygredd integredig (IPCI) yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae’r maes deddfwriaeth hwn yn un cymhleth. Am wybodaeth gyffredinol ynghylch sut rheoleiddir safleoedd Rhan A, gweler cyfarwyddyd caniatadau PPC NetRegs.
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn darparu rhestr gyflawn o weithgareddau caniatáu amgylcheddol (Cymru a Lloegr) neu weithgareddau PPC (Gogledd Iwerddon a’r Alban). Os ydych yn ansicr p’un ai yr effeithir arnoch gan ganiatáu amgylcheddol neu PPC, cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol neu gyngor lleol.
Cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol
Cysylltwch â’ch cyngor lleol