Adeiladu

Peiriant turio ar safleMae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y masnachau adeiladu, dymchwel, peiriannau sifil a saernïo.

Beth yw’r effeithiau potensial ar yr amgylchedd?

Gall busnesau adeiladu gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:

  • allyriadau i aer, er enghraifft llwch o gloddio neu allyriadau o gyfarpar trwm ac offer.
  • halogi tir, er enghraifft drwy ddatblygu safleoedd wedi’u halogi’n hanesyddol.
  • llygredd sŵn, er enghraifft o weithredu cyfarpar trwm ac offer
  • gwaredu gwastraff, megis sbwriel, torion a deunyddiau adeiladu eraill
  • gollyngiadau o ddŵr, er enghraifft o wagio turiadau a rhoi pibellau ar brawf.

Pwy sy’n gyfrifol?

Gall y strwythur rheoli safle o fewn y pa un bydd eich busnes yn gweithredu amrywio o un cytundeb i’r llall. Medrai eich busnes fod yr unig gontractwr sy’n gweithio ar safle, y prif gontractwr sy’n gyfrifol am reoli isgontractwyr, medrech fod yn isgontractwr neu efallai medrech fod yn gwneud dim ond cyflenwi gweithwyr i gontractwr arall. Gall hyn arwain at lawer iawn o ddryswch ynghylch pwy sy’n gyfrifol am bynciau amgylcheddol. Gall y rhain gynnwys rheoli a gwaredu gwastraff, caffael trwyddedau a chaniatadau a phwy sy’n atebol pan aiff pethau o chwith.

Lle mae trefniadau cytundebol yn gymhleth, peidiwch â chymryd yn ganiataol mai’r prif gontractwr sy’n gyfrifol am bopeth ac yn llwyr atebol pan aiff pethau o chwith.

Gwiriwch i weld a yw eich cytundeb yn disgrifio sut caiff pynciau amgylcheddol eu rheoli. Medrech ddal i fod yn atebol yn gyfreithiol hyd yn oed os yw eich cytundeb yn dweud nad ydych yn gyfrifol am ryw agwedd ar reolaeth amgylchedd eich gweithrediad. Nid yw eich cytundeb yn eich rhyddhau o fod yn atebol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch am help proffesiynol.

Er enghraifft, os yw eich busnes, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn caniatáu i ddeunydd llygrol fel silt fynd i mewn i ddŵr wyneb, dŵr daear neu hyd yn oed y môr, yna gellir erlyn eich busnes. Medrid erlyn y prif gontractwr yn ogystal os oeddent yn gwybod eich bod yn achosi llygredd ond ni wnaethant unrhyw beth i’ch atal.

Hyd yn oed os na sonnir am bynciau amgylcheddol fel gwaredu gwastraff a chaffael caniatadau yn eich cytundeb, gallwch yn hawdd fod yn gyfrifol amdanynt.

Cyfarwyddyd ar gyfer eich math chi o fuses

Peiriannu sifil

Adeiladu a masnachau

Arall