Addysg

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i unrhyw un sy’n gweithio o fewn addysg. Mae’n arbennig o berthnasol i:Addysg

  • ofalwyr
  • prifathrawon
  • rheolwyr cyfleusterau
  • rheolwyr tiroedd
  • staff sydd â chyfrifoldeb dros labordai a gweithdai a ddefnyddir ar gyfer cyrsiau ymarferol.

Mewn llawer i achos rydym wedi ysgrifennu’r tudalennau canllaw gyda golwg ar fusnesau. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion mae’r un rheoliadau yn berthnasol i sefydliadau addysgol ac i fusnesau fel ei gilydd. Lle mae eithriadau o’r rheoliadau yn bodoli ar gyfer sefydliadau addysgol, byddwn yn tynnu sylw at hyn yn y cyfarwyddyd.

Beth yw’r effeithiau potensial ar yr amgylchedd?

Gall sefydliadau addysgol gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:

  • allyriadau i aer, er enghraifft o fwyleri, labordai a gweithdai
  • halogiad tir, er enghraifft o storio olew a chemegolion
  • gwaredu gwastraff, fel offer trydanol ac electronig gwastraff (WEEE), deunyddiau peryglus a gwastraffau clinigol
  • gollyngiadau i ddŵr, er enghraifft o byllau nofio, labordai, arlwyo a llety
  • defnyddio adnoddau er enghraifft ynni, papur a dŵr.

Sut gall NetRegs eich helpu chi?

Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i: 

  • osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
  • cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
  • cwtogi ar eich costau  gweithredu
  • bod yn fwy tebygol o gaffael busnes  o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid  busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
  • gwella enw da  eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
  • gwella’r siawns o ennill noddiant  er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.

 

Cyfarwyddyd ar gyfer eich gweithgarwch neu fath o fusnes