Coedwigaeth

CoedwigaethMae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn coedwigaeth, gan gynnwys:

  • perchnogion tir, tenantiaid neu lesddalwyr
  • rheolwyr coedwigoedd
  • contractwyr
  • ffermwyr
  • crofftwyr sy’n plannu coed ar gytiroedd pori.

Sut gall busnesau coedwigaeth gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd

Gall busnesau coedwigaeth gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:

  • allyriadau aer, er enghraifft o daenu plaleiddiaid a llosgi malurion
  • halogiad tir, er enghraifft o golledion o olew a thanwydd
  • llygredd sŵn, er enghraifft o drafnidiaeth a gweithrediadau cwympo coed
  • gwaredu gwastraff, er enghraifft cynhwyswyr tanwydd, plaleiddiaid a gwrteithwyr
  • llygredd dŵr, er enghraifft dŵr ffo lleidiog o dir wedi’i aredig a ffyrdd.

Sut gall NetRegs eich helpu chi?

Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i: 

  • osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
  • cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
  • cwtogi ar eich costau  gweithredu
  • bod yn fwy tebygol o gaffael busnes  o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid  busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
  • gwella enw da  eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
  • gwella’r siawns o ennill noddiant  er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.