Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i’ch busnes os ydych yn cyflenwi pren neu gynhyrchion sy’n deillio o bren i adrannau o lywodraeth y DU, eu hasiantaethau gweithredol a chyrff cyhoeddus anadrannol.
Rhaid i bob adran, asiantaeth a chorff llywodraethol brynu eu holl gynhyrchion pren ac sy’n deillio o goed naill ai o ffynonellau cyfreithlon a chynaliadwy neu o ffynonellau a drwyddedwyd gan Orfodaeth, Rheolaeth a Masnach Cyfraith Coedwigoedd (FLEGT) neu ffynonellau cyfatebol.
Mae rhai cyrff cyhoeddus, fel cynghorau lleol, hefyd wedi mabwysiadu polisïau caffael pren cyfrifol, tebyg.
Fel cyflenwr, mae angen i chi fod yn ymwybodol o bolisi caffael pren y llywodraeth a sut allai hyn effeithio ar eich busnes. Cofiwch y gallwch fod yn rhan o gadwyn cyflenwi ehangach.
A yw’r polisi caffael pren yn berthnasol i’ch busnes chi?
Mae’r polisi’n berthnasol i’ch busnes os ydych yn cyflenwi cynhyrchion pren neu sy’n deillio o goed i’w defnyddio gan:
- adran o lywodraeth ganol, ee y Weinyddiaeth Amddiffyn
- asiantaeth weithredol, ee yr Asiantaeth Briffyrdd neu
- corff cyhoeddus anadrannol, ee Natural England neu Asiantaeth yr Amgylchedd.
Beth a rychwantir gan y polisi caffael pren?
Mae’r polisi’n cwmpasu defnyddiau a chynhyrchion gan gynnwys:
- pren a ddefnyddir o fewn adeiladu, gan gynnwys fel rhan o waith dros dro ar safle ee trawstiau, fframiau ffenestri a drysau, palisau safle, ffurfwaith ac ati.
- dodrefn swyddfa, ee desgiau, silffoedd ac ati.
- cynhyrchion swyddfa, ee papur, llyfrau nodiadau, eitemau deunydd ysgrifennu eraill.
- defnyddiau neu gynhyrchion lapio, ee pacedi cardfwrdd, paledau ac ati.
- asglodion pren ar gyfer cynhyrchu ynni
- ffensys.
Os ydych yn cyflenwi unrhyw rai o’r defnyddiau a chynhyrchion hyn i adrannau, asiantaethau neu gyrff llywodraethol rhaid i chi wirio eu bod yn dod o ffynonellau cymeradwy.
Dylech wirio tarddle eich defnyddiau neu gynhyrchion. Os bo angen gofynnwch i'ch cyflenwyr am fanylion.
Rhaid i chi fedru darparu tystiolaeth fod eich cynhyrchion yn cydymffurfio â’r polisi caffael pren os gofynnir amdani. Dylai’r dystiolaeth ddatgan tarddle’r pren neu gynnyrch a phrofi bod y tarddle hwn yn cael ei reoli’n gyfreithlon ac yn gynaliadwy. Er enghraifft, gallech ddefnyddio tystysgrifau cadwyn cystodaeth o’r Cyngor Stiwardiaeth Fforestydd (FSC) neu’r Rhaglen dros Arnodi cynlluniau Ardystio Fforest (PEFC).
Gwybodaeth bellach ynghylch y polisi caffael pren
Mae’r Pwynt Arbenigedd Canolog ar Bren (CPET) yn darparu cyngor a chyfarwyddyd am ddim i brynwyr o’r sector cyhoeddus a’u cyflenwyr ynghylch y polisi caffael pren a sut i gydymffurfio ag ef.
Os nad ydych yn sicr p’un ai y rhychwantir eich cynnyrch gan y polisi neu ba fath o dystiolaeth fydd yn dderbyniol, cysylltwch â Llinell Gymorth CPET neu edrychwch ar eu gwefan am gyngor pellach.
E-bost: cpet@proforest.net
Llinell Gymorth CPET: 01865 243766
CPET
CPET:Polisi llywodraeth y DU
CPET: Nodyn Cyngor Caffael Pren Llywodraeth y DU (Ebrill 2009) (Adobe PDF - 175KB)
Llywodraeth yr Alban: Nodyn Polisi Caffael Sgotaidd SPPN 09/2004 Caffael Pren a Chynhyrchion Pren (Adobe PDF - 128KB)
Llywodraeth yr Alban: Nodyn Polisi Caffael Sgotaidd 9 o 2005 Pren a Chynhyrchion Pren
Adran Weithredol Gogledd Iwerddon: Nodyn Canllaw Caffael 04/06 – Caffael Cynhyrchion Pren (Adobe PDF - 220KB)