Pren a chynhyrchion pren

Cynhyrchion coed a phrenMae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n gwneuthur, trin neu brosesu cynhyrchion pren. Mae hyn yn cynnwys: 

  • trin pren â chadwolion fel ffensys, deciau, cynhyrchion tirlunio neu brennau adeiladu
  • gwneuthur cynhyrchion pren cyfansawdd fel bwrdd ffibr, pren haenog, argaenau a laminiadau
  • melino â llif er mwyn cynhyrchu asglodion pren, paledau pren, polion ffensys neu bren wedi’i lifio
  • gweithio pren er mwyn cynhyrchu dodrefn, cynhyrchion pren at erddi neu brennau adeiladu i’w defnyddio o fewn adeiladu
  • taenu caen neu orffeniad ar wynebau pren gan gynnwys drysau, ffenestri a dodrefn
  • llosgi pren gwastraff wedi’i brosesu fel tanwydd.

Effeithiau amgylcheddol cynhyrchion pren

Gall busnesau pren gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • allyriadau i aer o fwyleri, blawd llif o blaenio a llifio, neu gyfansoddion organig anweddol (VOCs) o weithgareddau gludio a chaenu 
  • halogiad tir o olewau, cadwolion neu gemegolion a ddefnyddir er mwyn trin pren 
  • llygredd sŵn o offer llifio neu felino a gynhaliwyd yn wael 
  • gwaredu gwastraff, fel tocion a thoriadau coed, torbrennau neu naddion pren gwastraff, neu bren heb ei drin a ddefnyddir ar gyfer compostio
  • gollyngiadau i ddŵr o offer oeri, dŵr golchi sy’n cynnwys farneisi, caenau neu ludyddion, neu ddŵr ffo o ardaloedd storio.

Sut gall NetRegs eich helpu chi?

Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i: 

  • osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
  • cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
  • cwtogi ar eich costau  gweithredu
  • bod yn fwy tebygol o gaffael busnes  o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid  busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
  • gwella enw da  eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
  • gwella’r siawns o ennill noddiant  er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.