Canfod eich cyfarwyddyd busnes

Mae cyfarwyddyd y Llywodraeth yn cael ei gydgrynhoi er mwyn i chi fedru canfod yr wybodaeth rydych ei hangen yn haws.

Mae ein pynciau amgylcheddol wedi symud eisoes

Mae cyfarwyddyd ynghylch pynciau amgylcheddol NetRegs wedi symud eisoes i adran yr Amgylchedd ac Effeithlonrwydd y gwefannau busnes:

Business Link (Lloegr): Amgylchedd ac Effeithlonrwydd
NIBusinessInfo (Gogledd Iwerddon): Amgylchedd ac Effeithlonrwydd
Business Gateway (Yr Alban): Amgylchedd ac Effeithlonrwydd
Business.Wales.gov.uk (Cymru): Amgylchedd ac Effeithlonrwydd

Trefnir y cyfarwyddyd rhywfaint yn wahanol i beth rydych yn gyfarwydd ag ef ar NetRegs, ond mae’n cwmpasu’r un meysydd pwnc allweddol.

Mae ein cyfarwyddyd arall yn symud yn ogystal

Cyfarwyddyd math o fusnes

Mae ein cyfarwyddyd ar gyfer gwneuthurwyr cemegolion, gwneuthurwyr mwydion, papur a chardfwrdd a busnesau cynhyrchu a phrosesu metelau eisoes wedi symud i Business Link, NI Business Info, Business Gateway and Business.Wales.gov.uk.

Caiff cyfarwyddyd i Gymru sy’n symud i  Business.Wales.gov.uk  ei ddarparu yng Nghymraeg ac yn Saesneg.

Symudir cyfarwyddyd ar gyfer y mathau o fusnes sy’n weddill i fannau eraill dros yr ychydig fisoedd nesaf. Rhown yr wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy ein diweddariadau e-bost  fel bod y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen.

Cyfeiriadur Gwastraff

Mae’r Cyfeiriadur Gwastraff i’w ganfod nawr ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rhestrau deddfwriaeth

Symudir y rhestrau deddfwriaeth i fannau addas a  byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd.

Cyfarwyddyd i’r funud ar gyfer busnesau

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr Alban (SEPA) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA yn dal i fod yn gyfrifol am ddiweddaru ein cyfarwyddyd amgylcheddol. Golyga hyn y byddwn yn sicrhau fod pob cyfarwyddyd yn gywir ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson.

Diweddariad newydd amgylcheddol i fusnes - ychwanegwch ni i’ch rhestr o anfonwyr diogel

Cyn bo hir byddwn yn ail-lansio’r diweddariad NetRegs. Bydd ganddo wedd newydd a gelwir ef y diweddariad amgylcheddol i fusnes er mwyn adlewyrchu ei bwrpas yn well.

Byddwn yn anfon y diweddariad amgylcheddol i fusnes bob mis, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch newidiadau i ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd perthnasol, ble bynnag y mae ar y we.

Sicrhewch eich bod yn ychwanegu ein cyfeiriad newydd update@environmentandbusiness.org.uk i’ch rhestr o anfonwyr diogel.

Tanysgrifwyr cyfredol: byddwch yn derbyn yr e-bost newydd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Tanysgrifwyr newydd: gallwch barhau i gofrestru i dderbyn diweddariadau e-bost, disodlir y diweddariad NetRegs cyn bo hir gan y diweddariad amgylcheddol i fusnes.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad atebir mohonynt ar y dudalen hon, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn Advice&Guidance neu galwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0370 8506506.