23 March 2009

Chwilio

English

Sut i ddefnyddio gwefan NetRegs

Mae NetRegs yn wefan am ddim sy’n darparu cyfarwyddyd clir i fusnesau bach a chanolig eu maint (SMEs) yn y DU ynghylch sut i gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol.

Mae ein cyfarwyddyd ymarferol mewn Cymraeg eglur yn egluro pa reoliadau sy’n berthnasol i’ch busnes chi a beth sydd angen i chi ei wneud, er mwyn medru osgoi dirwyon, arbed amser ac arian a helpu i warchod yr amgylchedd. Mae dau brif ddull o chwilio am wybodaeth – yn ôl eich math o fusnes neu yn ôl y pwnc amgylcheddol sydd o ddiddordeb i chi.

Cyfarwyddyd yn ôl y math o fusnes

Guidance by business typeGallwch ddod o hyd i gyfarwyddyd sy’n berthnasol i’ch busnes chi. Detholwch eich math o fusnes a chanfod:

  • sut y gallai eich busnes fod yn effeithio ar yr amgylchedd
  • beth sy’n rhaid i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol
  • a oes angen trwydded neu ganiatâd arnoch er mwyn gweithredu eich busnes.

Mathau o fusnes

A-Z busnesau

Cyfarwyddyd yn ôl pwnc amgylcheddol

Guidance by environmental topicGallwch hefyd chwilio am gyfarwyddyd ynghylch pwnc amgylcheddol penodol, fel dŵr, gwastraff neu ddeunydd lapio. Detholwch y pwnc sydd o ddiddordeb i chi er mwyn canfod:

  • arolwg cyffredinol o’r pwnc ac unrhyw reoliadau perthnasol
  • pa reoliadau amgylcheddol sydd angen i chi gydymffurfio â nhw
  • cyfarwyddyd ymarferol ynghylch beth sydd angen i’ch busnes ei wneud er mwyn cydymffurfio.

Pynciau amgylcheddol

Cael y newyddion diweddaraf

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf ynghylch deddfau amgylcheddol newydd neu wybodaeth i’r funud ar NetRegs gyda’n diweddariadau newyddion am ddim.

Bob mis byddwch yn derbyn ein diweddariad newyddion a fflachiadau newyddion bob nawr ac yn y man, fel nad oes angen i chi bryderu.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf gyda diweddariadau newyddion NetRegs

Arfau hyfforddi a gwasanaethau eraill

Agriculture waste training toolMae NetRegs, yn ogystal, yn darparu hyfforddiant ar-lein i’ch helpu i gydymffurfio â rheoliadau a rheoli eich busnes yn fwy effeithiol. Ar hyn o bryd yr ydym yn cynnig yr arfau canlynol:

  • Arf hyfforddi gwastraff amaethyddiaeth – dysgwch sut i reoli eich gwastraff fferm (Lloegr)
  • Arf hyfforddi gwastraff amaethyddiaeth – dysgwch sut i reoli eich gwastraff fferm (Cymru)
  • Arf hyfforddi bwyd a diod – dysgwch sut i reoli eich gwastraff gwneuthur bwyd a diod (Cymru a Lloegr)
  • Aseswch sut ydych yn cydymffurfio’n amgylcheddol  dysgwch ba mor llwyddiannus y mae eich busnes yn y dasg o gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol (DU)

e-ddysgu ac arfau

Gwasanaethau eraill

Os oes gennych chi fath o wastraff y mae angen i chi ei waredu ac nid ydych yn sicr sut i gael gwared arno’n gyfreithlon, defnyddiwch ein cyfarwyddiadur gwastraff er mwyn canfod cwmnïau gwaredu gwastraff trwyddedig yn eich ardal chi.

Darganfyddwch eich safle gwastr

Angen mwy o fanylion?

Environmental legislationYr ydym yn darparu cysylltau i’r ddeddfwriaeth amgylcheddol wreiddiol er mwyn i chi fedru darllen y geiriad manwl. Byddwn hefyd yn amlygu deddfwriaeth ac ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol fel y gallwch fod yn barod am newidiadau sydd ar fin dod a fedrant effeithio ar eich busnes.

Rhestrau deddfwriaeth gyfredol

Deddfwriaeth ar gyfer y dyfodol