Environmental damage and liability regulations 2009

Mae rheoliadau difrod ac atebolrwydd amgylcheddol newydd yn gorfodi llygrwyr i atal ac adfer difrod amgylcheddol maent wedi’i achosi – yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’. Maent fel a ganlyn:

Environmental Damage (Prevention and Remediation) Regulations 2009 SI 153
Environmental Liability (Prevention and Remediation) Regulations (Northern Ireland) 2009 SR 252
Environmental Liability (Scotland) Regulations 2009 SSI 266
Environmental Damage (Prevention and Remediation) (Wales) Regulations 2009 SI 995

Os ydych chi neu eich busnes yn gwneud gweithgarwch sy’n achosi difrod amgylcheddol bydd rhaid i chi adfer y difrod. Os oes perygl o ddifrod o’ch gweithgareddau busnes, rhaid i chi atal difrod o’r fath rhag digwydd.

Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i ddifrod amgylcheddol a achoswyd cyn i’r rheoliadau ddod i rym.

Yn gyffredinol, mae’r rheoliadau’n debygol o gael eu defnyddio ar gy`fer yr achosion o ddifrod mwyaf difrifol yn unig.

Beth yw difrod amgylcheddol?

O dan y rheoliadau mae difrod amgylcheddol yn:

  • ddifrod difrifol i ddŵr wyneb neu ddŵr dan y ddaear
  • halogi tir ble ceir perygl pwysig i iechyd pobl
  • Difrod difrifol i gynefinoedd a rhywogaethau naturiol gwarchodedig yr UE neu ddifrod i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs) neu Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ASSIs) yng Ngogledd Iwerddon.

Ar bwy fydd y rheoliadau difrod ac atebolrwydd amgylcheddol yn effeithio?

  • busnesau preifat
  • ffermio
  • gweithgynhyrchu
  • adeiladu a dymchwel
  • rheoli gwastraff
  • coedwigaeth
  • sector cyhoeddus – ysgolion, ysbytai ac adrannau neu asiantaethau o’r llywodraeth
  • sefydliadau elusennol a gwirfoddol.

Pam fod angen y rheoliadau difrod ac atebolrwydd amgylcheddol?

Bydd y cynigion yn sicrhau fod yr amgylchedd yn cael ei warchod yn llwyr rhag y difrod amgylcheddol mwyaf difrifol. Gall erlyniadau yn erbyn llygrwyr gymryd amser hir i’w diweddu ac nid ydynt yn dwyn adferiad o’r difrod yn eu sgil.  

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

Os ydych chi neu eich gweithgareddau yn bygwth achosi, neu wedi achosi, difrod amgylcheddol rhaid i chi:

  • gymryd camau er mwyn atal y difrod (neu ddifrod pellach) rhag digwydd
  • rhoi gwybod i Asiantaeth yr Amgylchedd neu awdurdodau eraill a fyddant yn dweud wrthych beth sy’n rhaid i chi ei wneud er mwyn atal ac/neu adfer y difrod.

Os oes yn rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd gywiro’r difrod ar eich rhan, bydd yn rhaid i chi dalu’r costau.

Pwy sy’n gorfodi’r rheoliadau difrod ac atebolrwydd amgylcheddol?

Yng Nghymru a Lloegr Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England, cynghorau lleol a’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi’r rheoliadau, gan ddibynnu ar ba fath o ddifrod yr ymdrinnir ag ef.

Yng Ngogledd Iwerddon, Adran yr Amgylchedd a’i hasiantaeth weithredol , Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) sy’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi’r rheoliadau.

Yn yr Alban SEPA, Gweinidogion yr Alban (ar ffurf Alban Forol) a Threftadaeth Naturiol yr Alban sy’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi’r rheoliadau, gan ddibynnu ar y math o ddifrod yr ymdrinnir ag ef.

Os nad ydych yn cydymffurfio â’r rheoliadau, gallwch gael eich erlyn, eich dirwyo a/neu eich carcharu.

Gwybodaeth bellach ynghylch y rheoliadau difrod ac atebolrwydd amgylcheddol

England and Wales