Deddf Aer Glân 1993 (c.11)

Mae’r Ddeddf Aer Glân yn rhoi grymoedd i gynghorau lleol er mwyn rheoli mwg domestig a diwydiannol er mwyn gwella ansawdd aer lleol a bodloni safonau ansawdd aer y UE ar gyfer deuocsid sylffwr a gronynnau. Mae’n galluogi cynghorau lleol i greu ‘ardaloedd rheoli mwg’ a gorchymyn fod tanwydd glanach yn cael ei ddefnyddio yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r ddeddf yn llwyr weithredol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon adrannau 30 a 32 yn unig ar gynnwys tanwydd motor a’r adrannau technegol ynghylch dirymiadau deddfwriaeth gynharach sy’n berthnasol.

Beth yw’r Ddeddf Aer Glân?

 Rhif Rhan  Disgrifiad

 Rhan I

Mwg Tywyll

  •  Yn gwahardd allyrru mwg tywyll o simneiau ac eiddo diwydiannol neu fasnachol.

 Rhan II

Mwg, grut, llwch a tharthau
  • Yn mynnu fod ffwrneisi newydd mor ddi-fwg ag y bo modd.
  • Yn cyfyngu ar allyriadau mwg, grut, llwch a tharthau.
  • Yn rhagnodi uchderau simneiau gofynnol..

 Rhan III

Ardaloedd rheoli mwg

  • Yn awdurdodi cynghorau lleol i ddatgan ‘ardaloedd rheoli mwg’ er mwyn gwella ansawdd aer.
  • Yn caniatáu i ‘danwydd awdurdodedig’ yn unig gael ei ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg, gydag eithriadau cyfyngedig.

 Rhan IV

Rheoli llygredd aer (tanwydd a llosgi ceblau)

  • Yn awdurdodi’r llywodraeth i reoli cynnwys tanwydd motor a thanwydd olew ar gyfer ffwrneisi.
  • Yn gwahardd llosgi ceblau er mwyn adennill metel.

 Rhan V

Gwybodaeth
  • Yn caniatáu cynghorau lleol i archwilio, ymchwilio a rhoi cyhoeddusrwydd i broblemau llygredd aer.
  • Gosod allan y pethau gall cynghorau lleol eu gwneud wrth archwilio a’r trefnau sy’n rhaid iddynt eu dilyn.

 Rhan VI

 Achosion arbennig
  • Mynnu fod perchnogion mwyngloddiau neu chwareli yn gweithredu er mwyn atal tân mewn tomennydd sbwriel pyllau glo, ac atal neu leihau’r perygl o gynhyrchu mwg a tharthau.
  • Ehangu’r rheolau mwg o Ran I er mwyn iddynt fod yn berthnasol i allyriadau o injans rheilffordd, llongau dŵr ( ee mewn camlesi, porthladdoedd neu harbwrs). Yn caniatáu i gynghorau lleol beidio â gweithredu rhai o reolau’r Ddeddf hon, os oes angen hynny, er mwyn gwneud ymchwil llygredd aer.
  • Yn gosod allan dyletswyddau cynghorau ynghylch llygredd aer o eiddo’r llywodraeth.

Ar bwy mae’r Ddeddf Aer Glân yn effeithio?

Mae’r Ddeddf yn effeithio ar bob busnes sy’n gweithredu ffwrneisi, bwyleri neu losgyddion.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

Gweler ein cyfarwyddyd ar:

Sut caiff y Ddeddf Aer Glân ei gorfodi?

Cynghorau lleol sy’n gorfodi’r Ddeddf, yn bennaf trwy rybuddion atal.

Gellir dirwyo busnesau y dedfrydir eu bod yn gyfrifol am gynhyrchu mwg tywyll gymaint ag £20,000.

Gwybodaeth bellach