Rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes 2003 SI 2635

Mae’r Rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes yn cyfyngu ar ddefnyddio deunyddiau peryglus penodol wrth wneuthur ceir a faniau, ac yn mynnu fod cerbydau a’u cydrannau yn cael eu dylunio yn y fath fodd fel eu bod yn haws i’w hailgylchu a’u gwaredu pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes. Nod y rheoliadau yw cynyddu ailgylchu a lleihau effeithiau negyddol cemegolion peryglus o geir ar yr amgylchedd.

Maent hefyd yn safoni gofynion trin, yn mynnu fod gan gyfleusterau trin ganiatâd ac offer er mwyn atal llygredd, a chynyddu faint o bob cerbyd gaiff ei ailgylchu er mwyn lleihau faint sy’n mynd i’w dirlenwi.

Diweddarodd Rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes (Cyfrifoldeb y Cynhyrchwr) 2005 reoliadau 2003 er mwyn mynnu fod cynhyrchwyr yn cymryd cerbydau diwedd oes (ELVs) yn ôl am ddim o 1 Ionawr 2007.

Mae’r Rheoliadau’n berthnasol i’r DU gyfan.

Beth yw’r Rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes?

Mae’r rheoliadau’n mynnu fod cynhyrchwyr cerbydau yn:

  • dilyn terfynau metel trwm, gan gyfyngu ar ddefnyddio plwm, mercwri, cadmiwm a chromiwm chwefalent wrth wneuthur cerbydau (rhestrir eithriadau yn Atodlen 1).
  • defnyddio safonau codio Ewropeaidd er mwyn canfod y deunyddiau a’r cydrannau sy’n addas ar gyfer eu hailddefnyddio, ailgylchu ac adennill (manylion yn Atodlen 2)
  • cyhoeddi gwybodaeth dylunio, tynnu’n ddarnau ac ailgylchu, a’i chynnwys yn eu llenyddiaeth broliant (Rhan IV).

Rhaid i gyfleusterau trin cerbydau wedi’u hawdurdodi:

  • roi tystysgrif dinistrio am ddim i berchennog neu ddaliwr diwethaf y cerbyd (Rhan IV)
  • ddal trwyddedau safle a ragnodir yn y rheoliadau a chydymffurfio â safonau gweithredu (Rhan VII).

Ar bwy mae’r Rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes yn effeithio?

Mae’r rheoliadau’n berthnasol i gynhyrchwyr, gwneuthurwyr, mewnforwyr cerbydau a gweithfeydd trin cerbydau sy’n gwneuthur neu fewnforio (o du allan i’r UE) cerbydau teithwyr pedair olwyn a cherbydau nwyddau gyda phedair olwyn neu fwy nad ydynt yn cario llwythi sy’n fwy na 3.5 tunnell.

What do you have to do?

Gweler ein cyfarwyddyd ar:

Sut caiff y Rheoliadau eu gorfodi?

Caiff y rheoliadau eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr, SEPA yn yr Alban a’r NIEA yng Ngogledd Iwerddon. Gall eich rheolydd amgylcheddol gyflwyno rhybudd cydymffurfio os yw’n credu nad ydych wedi cyflawni eich dyletswyddau o dan y rheoliadau. Os nad ydych yn cydymffurfio â’r rhybudd gallwch gael eich erlyn a medrech wynebu dirwy ddiderfyn.

Gwybodaeth bellach