Deddf yr Amgylchedd 1995 (c.95)

Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd 1995 Asiantaeth yr Amgylchedd (AA) yng Nghymru a Lloegr ac Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr Alban (SEPA) yn yr Alban, er mwyn gwarchod yr amgylchedd a rheoli adnoddau.

Mae Deddf yr Amgylchedd yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Beth yw Deddf yr Amgylchedd?

 Rhan  Disgrifiad
 Mae Rhan I
  • Yn sefydlu EA a SEPA
  • Yn rhoi’r cyfrifoldeb i EA a SEPA dros reoleiddio rheoli llygredd, dŵr, dyletswyddau amgylcheddol a hamdden cyffredinol, dyletswyddau amgylcheddol yng nghyswllt safleoedd o ddiddordeb arbennig (SSSIs), pysgodfeydd rhanbarthol a lleol, atal a rheoli llifogydd.
 Mae Rhan II
  • Yn gosod allan system er mwyn canfod ac adfer tir wedi’i halogi
  • Yn diwygio Deddf Adnoddau Dŵr 1991 er mwyn gwneud newidiadau pwysig i ddeddfau ynghylch llygredd dŵr o fwyngloddiau gadawedig.
 Mae Rhan III
  • Yn sefydlu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr
  • Yn rhoi grymoedd awdurdod cynllun i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth parciau cenedlaethol a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
  • Yn creu Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol.

 Mae Rhan IV

  • Yn mynnu fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn paratoi strategaeth ansawdd aer genedlaethol ym Mhrydain Fawr
  • Yn mynnu fod awdurdodau lleol yn paratoi adolygiadau ar ansawdd aer.
 Mae Rhan V
  • Yn mynnu fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn paratoi strategaeth wastraff genedlaethol ar gyfer Prydain Fawr
  • Yn mynnu fod SEPA’n paratoi strategaeth wastraff genedlaethol ar gyfer yr Alban.
  • Yn galluogi i reoliadau gael eu creu sy’n gosod cyfrifoldeb am wastraff ar gynhyrchwr y gwastraff.
  • Yn diweddaru cyfreithiau ynghylch niwsans statudol a llygredd dŵr yn yr Alban.

Ar bwy mae Deddf yr Amgylchedd yn effeithio?

Mae Deddf yr Amgylchedd yn effeithio ar bob busnes yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

What do you have to do?

Gweler ein cyfarwyddyd ynghylch:

Gwybodaeth bellach