Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Longau Trawsffiniol 2007 SI 1711

Mae’r Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Longau Trawsffiniol yn gosod allan rheolau er mwyn rheoli symudiad gwastraff i mewn i, neu allan o, neu drwy’r DU. Maent hefyd yn gosod allan troseddau a chosbau os na chydymffurfir â nhw ac yn penodi’r awdurdodau cymwys ar gyfer cludo gwastraff mewn llongau.

Mae’r rheoliadau’n berthnasol ledled y DU, gan gynnwys y môr tiriogaethol cyfagos (noder nad ydym hyd yma’n darparu cyfarwyddyd ar gyfer busnesau morol).

Beth yw’r Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Longau Trawsffiniol?

Mae’r rheoliadau hyn yn atal mewnforio ac allforio gwastraff, i mewn i ac allan o’r DU, a fedrai niweidio iechyd pobl neu’r amgylchedd.

Mae’r rheoliadau’n gosod tri lefel o reolaeth ar gyfer mathau gwahanol o wastraff: rheolau ‘gwaharddedig’, ‘rhestr werdd’ a ‘hysbysiad’.

Rheolau gwaharddedig

Mae symud gwastraff i mewn i, neu allan o, neu drwy’r DU er mwyn ei waredu, wedi’i wahardd gydag ychydig iawn o eithriadau.

Rheolau hysbysiad

Mae rheolau hysbysiad yn berthnasol i bob mewnforyn ac allforyn o:

  • wastraff peryglus a symudir er mwyn ei adennill
  • unrhyw fath o wastraff a symudir er mwyn ei waredu
  • rhai achosion o gludo gwastraff diberygl ar longau i wledydd rhestredig.

Er mwyn cludo’r mathau hyn o wastraff ar longau mae angen caniatâd ysgrifenedig arnoch oddi wrth eich rheolydd amgylcheddol a rhaid i chi gydymffurfio ag ystod o ofynion eraill.

Rheolau rhestr werdd

Rheolau rhestr werdd yw’r lefel isaf o reolaeth ac maent yn berthnasol i rai mewnforion neu allforion o wastraff diberygl er mwyn ei adennill.

Nid oes angen caniatâd ysgrifenedig eich rheolydd arnoch er mwyn cludo’r math hwn o wastraff ar long, ond:

  • os ydych yn anfon y gwastraff rhaid i chi sicrhau fod ffurflen eich rheolydd ar gyfer gwastraff rhestr werdd yn mynd gydag ef
  • os ydych yn derbyn y gwastraff, rhaid i chi arwyddo a chadw copi o’r ffurflen hon am dair blynedd.

Ar bwy mae’r Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Longau Trawsffiniol  yn effeithio?

Mae’r rheoliadau’n berthnasol i fusnesau sy’n anfon gwastraff ar longau o’r DU i wlad arall neu sy’n derbyn gwastraff o dramor.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud?

Gweler ein cyfarwyddyd ynghylch:

Pwy sy’n gorfodi’r Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Longau Trawsffiniol?

Caiff y rheoliadau eu gorfodi gan reolyddion amgylcheddol y DU: Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr, SEPA yn yr Alban, ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gan y rheolyddion y grym i roi gweithredoedd gorfodi ar waith yn eich erbyn os ydych yn cludo neu anfon llwythi ymlaen sy’n cynnwys gwastraff nas awdurdodwyd, neu os ydych yn ymwneud mewn unrhyw ffordd arall â chludo gwastraff ar longau.

Gellir rhoi gweithredoedd gorfodi ar waith yn erbyn unrhyw un sy’n ymwneud â chludo gwastraff, nid yn unig y sawl a ddylai fod wedi rhoi gwybod i’r rheolyddion ynghylch y llwyth llong o wastraff.

Mae gan reolyddion, yn ogystal, y grym i atafaelu gwastraff os ceir perygl uniongyrchol i iechyd pobl neu’r amgylchedd.

Gwybodaeth bellach