Mae’r adran hon yn darparu cyfarwyddyd ynghylch deddfwriaeth amgylcheddol allweddol sy’n cael ei datblygu ar gyfer pob rhanbarth yn y DU. Dylai hyn ei gwneud yn haws i fusnesau baratoi ar gyfer cyflwyniad y ddeddfwriaeth newydd.
Deddfwriaeth Seisnig ar gyfer y Dyfodol
Deddfwriaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer y Dyfodol
Deddfwriaeth Sgotaidd ar gyfer y Dyfodol
Deddfwriaeth Gymreig ar gyfer y Dyfodol
Mae NetRegs yn darparu manylion ynghylch datblygiadau mewn deddfwriaeth allweddol ar dair lefel:
- Cyfarwyddebau a Rheoliadau’r Undeb Ewropeaiddy seilir llawer o gyfraith amgylcheddol y DU arnynt.
- Deddfwriaeth ddrafft y DU a dderbynnir gan y senedd (canolog neu ddatganoledig).
- Papurau ymgynghorol – yn fynych bydd proses ddeddfwriaethol y DU yn cychwyn gyda chyhoeddiad papur ymgynghorol ( gan y llywodraeth neu’r asiantaethau amgylchedd). Bydd y papur yn egluro’r ddeddfwriaeth a arfaethir, yn rhoi crynodeb o ddarpariaethau cyfreithiol yr UE ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ac eraill i gynnig sylwadau ynghylch y cynnig. Hyd yn oed pan fod y cyfle i gynnig sylwadau wedi mynd heibio, mae ymgynghoriadau sydd wedi cau yn aml yn darparu arwydd defnyddiol o ffurf debygol y ddeddfwriaeth.
Os hoffech chi ddarganfod pa ddeddfwriaeth fedrai gael effaith ar eich busnes ar hyn o bryd, byddwch gystal ag edrych ar ein rhestrau o ddeddfwriaeth gyfredol.
Rhestrau deddfwriaeth gyfredol
Os nad allwch ganfod beth yr oeddech yn chwilio amdano, dylech nodi fod deddfwriaeth ar gyfer y dyfodol sydd mewn grym erbyn hyn wedi cael ei gynnwys yn y cyfarwyddyd fesul pwnc amgylcheddol.