Cynlluniau Rheoli Traethlinau (CRhTau)

Gwybodaeth am ein harfordir sy'n newid a sut y bydd Cynlluniau Rheoli Traethlinau yn rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â llifogydd ac erydiad arfordirol.

Beth yw Cynllun Rheoli Traethlinau?

Mae Cynllun Rheoli Traethlinau (CRhT) yn asesiad ar raddfa fawr o'r risgiau sy'n gysylltiedig â phrosesau arfordirol, ac yn helpu i leihau'r risgiau hyn i bobl a'r amgylcheddau datblygedig, hanesyddol a naturiol. Mae prosesau arfordirol yn cynnwys patrymau'r llanw, uchder y tonnau, cyfeiriad y tonnau a symudiad deunyddiau'r traeth a gwely'r môr.

Sut mae ein traethlin wedi newid dros y blynyddoedd?

Mae traethlinau yn newid yn barhaus o ganlyniad i donnau a llanwau. Mae graddau'r newid ffisegol yn dibynnu ar lawer o bethau, ac mae'n digwydd dros amser o eiliadau i ganrifoedd.

Mae gweithredoedd pobl dros y blynyddoedd wedi dylanwadu ar y draethlin sy'n newid hefyd, yn enwedig o ran ymgeisiau i atal effaith erydiad neu lifogydd. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi digwydd heb werthfawrogi'r effaith y gallai'r gweithredoedd hyn ei chael ar fannau eraill ar hyd yr arfordir.

Pwysau cynyddol ar ein harfordir

Wrth i newidiadau i'n harfordir barhau, mae pwysau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cynyddu mewn ardaloedd arfordirol.
Mae pobl yn mwynhau byw ger yr arfordir ac ymweld ag ef, ac mae'r pwysau am fwy o dai yn cynyddu. Wrth i fasnach ryngwladol gynyddu, felly hefyd y mae'r galw am le mewn porthladdoedd a diwydiant cysylltiedig ar yr arfordir.

Mae'r math hwn o waith datblygu yn rhoi straen ar gynefinoedd arfordirol naturiol sy'n aml yn unigryw ac o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

Y Cynlluniau Rheoli Traethlinau (CRhTau) cyntaf

Lluniwyd y CRhTau cyntaf yng nghanol y 1990au. Ar hyn o bryd, caiff pob traethlin ei rheoli mewn ffordd benodol, yn unol â'r polisïau a nodir ynddynt.

Fodd bynnag, cafwyd sawl astudiaeth fawr ers hynny. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Futurecoast
  • Foresight
  • Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU
  • Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd
  • Asesiadau Perygl Llifogydd Strategol a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Mae'r holl astudiaethau hyn wedi darparu gwybodaeth newydd, ac yng ngoleuni hyn mae'n bosibl na fydd y polisïau rheoli traethlinau cyfredol yn ymarferol na'n dderbyniol yn yr hirdymor. Er enghraifft:

  • mae'r rhagfynegiadau o ran lefel y môr yn codi o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu'n sylweddol ers cylch cyntaf y CRhTau, ac mae angen eu hymgorffori yn yr ail gylch;
  • efallai mai oes gyfyngedig sydd gan yr amddiffynfeydd cyfredol ac mae'n bosibl nad yw gwelliannau yn ymarferol o safbwynt economaidd, cymdeithasol, technegol nac amgylcheddol;
  • gallai newidiadau yn y draethlin arwain at gymryd camau newydd a fydd yn angenrheidiol er mwyn rheoli risgiau yn y dyfodol.

Ail gylch y Cynlluniau Rheoli Traethlinau (CRhTau)

Mae ail gylch y Cynlluniau Rheoli Traethlinau (CRhTau) yn cael eu llunio ar hyn o bryd, ac maent yn cwmpasu 6000 cilomedr o arfordir cyfan Cymru a Lloegr.

Caiff amcanion rheoli arfordirol cyfredol eu derbyn yn gyffredinol yn aml a'u hymgorffori mewn polisïau cynllunio lleol. Felly, efallai na fydd newidiadau cyfanwerth i arferion rheoli amddiffynfeydd rhag llifogydd ac erydiad bob amser yn briodol yn y tymor byr iawn, a bydd angen amser i addasu ar gymunedau, busnesau a chynefinoedd bywyd gwyllt.

O ganlyniad, bydd CRhTau yn darparu trywydd ar gyfer awdurdodau lleol a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill i symud o'r sefyllfa bresennol tuag at ddiwallu ein hanghenion yn y dyfodol, a bydd yn nodi'r dulliau mwyaf cynaliadwy o reoli'r risgiau i'r arfordir yn y byrdymor (0-20 mlynedd), y tymor canolig (20-50 mlynedd) a'r hirdymor (50 i 100 mlynedd).

O fewn yr amserlenni hyn, bydd y CRhTau hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu sy'n blaenoriaethu'r gwaith sydd angen ei wneud i reoli prosesau arfordirol yn y dyfodol, a lle y bydd yn digwydd. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi'r sail ar gyfer penderfynu ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydiad a'u rhoi ar waith, monitro erydiad arfordirol a gwneud gwaith ymchwil pellach ar sut y gallwn addasu i newid orau.