Adroddiad Blynyddol Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd 2011- Cwestiynau Cyffredin

Atebion i gwestiynau cyffredin am Adroddiad Blynyddol y Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd (CRhLlD) ar gyfer 2011.

Pam ein bod wedi llunio'r Adroddiad Blynyddol hwn?

Rydym yn monitro statws y camau arfaethedig yn y Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd. Mae cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â dros hanner y camau gweithredu yn y CRhLlDau a hoffem rannu'r cynnydd da hwn â phartneriaid, cyrff eraill a'r cyhoedd. Ein nod yw annog cydweithio parhaus mewn ffordd sydd wedi'i chydgysylltu rhwng dalgylchoedd.

Pam nad yw'r cynnydd disgwyliedig wedi'i wneud mewn perthynas â rhai camau gweithredu yn y CRhLlD?

Mae angen i wahanol bartneriaid, yn ogystal â'r cyhoedd, gydweithio cyn y gellir gwneud cynnydd mewn perthynas â llawer o'r camau gweithredu yn y CRhLlD. Gall hyn gymryd amser, ac rydym am sicrhau bod y rheini dan sylw yn rhannu barn gyffredin am y perygl o lifogydd a blaenoriaethau ar gyfer dalgylchoedd. Mae'r camau a gymerir ar hyn o bryd yn adlewyrchu hyn.

Pam bod y camau gweithredu a oedd yn cael eu hargymell yn y CRhLlD wedi cael eu newid?

Pan ddaw gwybodaeth newydd i law, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i adolygu sut gallwn ni reoli’r perygl o lifogydd. Weithiau mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud newidiadau i'r camau sydd wedi eu hargymell yn y CRhLlDau. Pan fyddwn yn newid y camau gweithredu yn y CRhLlD, byddwn yn ceisio bod mor agored â phosibl ac egluro pam ein bod wedi gwneud y newidiadau hyn. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau cytundeb y rheini sy’n gyfrifol am gymryd y camau.

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y CRhLlD ar gyfer fy ardal i?

Gallwch ein ffonio yn Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 03708 506 506 neu anfonwch e-bost atom yn enquiries@environment-agency.gov.uk