Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd

Dysgwch beth yw Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd, yr hyn maent yn ei gynnwys a chynlluniau cryno ar gyfer eich ardal chi.

Beth yw Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd?

Mae Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd yn rhoi trosolwg o'r risg o lifogydd ar draws bob dalgylch afon.  Maent yn argymell ffyrdd o reoli'r risgiau hynny nawr a dros yr 50 i 100 o flynyddoedd nesaf.

Mae Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd yn ystyried pob math o lifogydd, o afonydd, dŵr daear, dŵr wyneb a llifogydd llanw, ond nid llifogydd yn uniongyrchol o’r môr (llifogydd arfordirol), yr ymdrinnir ag ef yn Cynlluniau Rheoli'r Draethlin.  Maent hefyd yn ystyried effeithiau tebygol newid yn yr hinsawdd, effeithiau sut rydym yn defnyddio a rheoli'r tir,  a sut y gellid datblygu ardaloedd i fodloni ein hanghenion presennol heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion nhw. 

Caiff Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd eu defnyddio i'n helpu ni a'n partneriaid i gynllunio a phenderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o reoli risg llifogydd yn y dyfodol.

Adroddiad Blynyddol Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd 2011

Rydym wedi llunio ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y camau gweithredu yn y CRhLlDau.

Rydym yn monitro'r cynnydd a wneir ar tua 5800 o gamau gweithredu o'r cynlluniau. Mae dros hanner y camau gweithredu yng Nghymru a Lloegr yn mynd rhagddynt ac mae tua 7% o'r camau gweithredu yng Nghymru a thua 9% o'r camau gweithredu yn Lloegr wedi'u cwblhau.

Beth yw Datganiadau Ôl-fabwysiadu?

Paratoir 'Datganiad Ôl-fabwysiadu' o dan y Rheoliadau Asesu Amgylcheddol Strategol ar gyfer pob Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd.  Mae'n amlinellu sut yr ystyriwyd yr amgylchedd yn ystod datblygu'r cynllun, a sut mae ymgynghoriadau wedi dylanwadu ar y cynllun.  Byddwch yn dod o hyd i'r rhain gyda phob un o'r cynlluniau cryno.

Dewch o hyd i'r Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd ar gyfer eich ardal

CFMP regional map

Cewch ragor o wybodaeth am y Cynllun Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd yn eich ardal drwy ddilyn y dolenni isod.