Beth sydd yn y Cofrestrau Cyhoeddus?

O fewn yr adrannau a restrir isod ceir y Cofrestrau Cyhoeddus sy’n cynnwys gwybodaeth yr ydym yn peri ei bod ar gael i’r cyhoedd.

Dylech fod yn ymwybodol fod y cofrestrau ar gael ar-lein. Mae ynddynt wybodaeth gryno, a modd gofyn i’n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ni am ragor o fanylion ac am gopïau o ddogfennau.

Mae rhai Cofrestrau Cyhoeddus nad ydynt ar gael ar ffurf drydanol, fel a ganlyn:

Gwastraff

  • Cludwyr Gwastraff Rheoledig
  • Broceriaid Gwastraff Rheoledig
  • Gweithgareddau Eithriedig
  • Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Y Gronfa Wybodaeth Gwastraff Pacedu Genedlaethol)
  • Casglwyr, Cludwyr, Delwyr a Broceriaid Gwastraff (nid yw ar gael yn drydanol)
  • Gwastraff Peryglus
  • Eithriadau Gwastraff Amaethyddol
  • Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (OTEG)Water

Dŵr

  • Tynnu a chronni dŵr (nid yw ar gael yn drydanol)

Trwyddedau Amgylcheddo

Enwau blaenorol cofrestrau o dan y rheoliad hwn yw:

  • Atal a Rheoli Llygredd (ARhLlM)
  • Trwyddedau Rheoli Gwastraff (TRhG)  
  • Cyfleusterau Trin Awdurdodedig (Cerbydau Diwedd Oes)
  • Ansawdd Dŵr a Rheoli Llygredd (Caniatadau Gollwng)
  • Dŵr Daear (nid yw ar gael yn drydanol)
  • Gwybodaeth Sylweddau Ymbelydrol

Eraill

  • Gorfodi
  • Rheoli Damweiniau a Pheryglon Mawrion (nid yw ar gael yn drydanol)
  • Tir Halog (nid yw ar gael yn drydanol)
  • Mapiau Terfynau Dŵr Croyw (nid yw ar gael yn drydanol)
  • Mapiau Prif Afonydd (nid yw ar gael yn drydanol)Enforcement Action