Gwnaed yr arolwg gwastraff diwydiannol a masnachol (DM) a gynhyrchwyd yng Nghymru yn 2007 gan Urban Mines, tan reolaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, a ariannodd yr arolwg.
Casglwyd gwybodaeth o 1,547 safle busnes rhwng Awst 2008 ac Ionawr 2009 ledled Cymru, o wahanol sectorau a meintiau, a grosiwyd yr wybodaeth gan ddefnyddio data poblogaeth i raddfeydd rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru. Dangosodd data’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yr oedd tua 71,400 safle busnes yng Nghymru yn 2007, 8% ohonynt yn sectorau diwydiannol a 92% ym masnach. Yr oedd 60% o’r cwmnïau hyn yn cyflogi llai na 4 o bobl, a 2 â rhagor na 100 gweithiwr.
Prif ganfyddiadau
Amcangyfrifir y cynhyrchodd sectorau diwydiannol a masnachol Cymru 3.6 miliwn tunnell o wastraff, 53% gan fusnesau diwydiannol, a’r gweddill gan fusnesau masnachol.
Yn ychwanegol, cynhyrchwyd 1.8 miliwn tunnell o “an-wastraff”, sorod ffwrneisiau chwyth a phren nas defnyddiwyd eisoes yn benodol.
Mathau o wastraff
Gwastraff cymysg y gwastraff DM mwyaf sylweddol (31.3%%), yna anfetelau (24.2%) gwastraff mwynol (16.6%), a gwastraff anifail a llysieuol (11.2%).
Gwastraff peryglus
Amcangyfrifodd yr arolwg y cynhyrchir cyfanswm o 259,740 tunnell o wastraff peryglus yng Nghymru, sef 7.3% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd (ac eithrio an-wastraff): 42% o fusnesau diwydiannol, a’r gweddill o fusnesau masnachol. Yr oedd y prif fathau o wastraff yn cynnwys gwastraff cemegol, gwastraff cymysg cyffredin a gwastraff mwynol.
Sut y rheolwyd gwastraff
Ail-gylchwyd 1.4 miliwn tunnell (38%); ailddefnyddiwyd 348,000 tunnell (9.7%); compostiwyd 51,000 tunnell (1.4%); bu 50,000 tunnell (1.4%) yn destun triniaeth thermol, a chladdwyd 1.4 miliwn tunnell (39.1%).
Tirlenwyd swm sylweddol yn llai o wastraff diwydiannol (heb an wastraff) (29%) o gymharu a gwastraff masnachol (50.5%). Hefyd, cafwyd mwy o wastraff diwydiannol ei ailgylchu, ailddefnyddio, compostio ac adenill tir (63.2%) o gymharu a dim ond 37.5% o wastraff masnachol.
Canfod rhagor