Adroddiadau terfynol Ymarferiad dyfrnod – yn ein paratoi ni’n well ar gyfer llifogydd

Ymarferiad dyfrnod fu’r ymarferiad llifogydd mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd yn y DU erioed. Mae’r adroddiadau terfynol yn dangos ple gellir dysgu gwersi, ac yn argymell i lywodraethau Cymru a’r DU sut y gallem ymbaratoi’n well ar gyfer llifogydd eang.

Fe wnaethom ni lywio’r ymarferiad tan gyfarwyddyd Defra a Llywodraeth Cymru, gan amcanu profi’r ymateb rheolyddol i lifogydd eang, difrifol yng Nghymru a Lloegr pe gorlifai’r môr, dyfroedd wyneb, afonydd a chronfeydd.

Bu tair rhan eglur i’r ymarferiad:

  • ymarferiad creiddiol, a gynhwysai adrannau llywodraeth ac ymatebwyr brys; 
  • ymarferiadau lleol er mwyn profi amrywiaeth ehangach o weithgareddau, megis achub rhag dŵr ac ymadael â mannau tan fygythiad; 
  • nifer o ddigwyddiadau ar gyfer cymunedau a busnesau.

Amcangyfrifir i ragor nag 20,000 o bobl gymryd rhan, o fwy na 200 safle gwahanol. Fe wnaeth tua 2,000 o’n gweithwyr ni chwarae rhan. Crynhowyd yr adroddiadau o adborth a data’r rhai fu’n cynllunio’r ymarferiad ac a fu â rhan ynddo.

Adroddiadau terfynol Ymarferiad Dyfrnod

Ar ran Defra, fe wnaethom ni adolygu llwyddiannau pob agwedd ar yr ymarferiad; clustnodi’r hyn y gellir ei wella, a chyhoeddi cyfres o adroddiadau er mwyn rhannu ein canfyddiadau ni.

Cyflwynwyd tri adroddiad i Defra a Llywodraeth Cymru, sef:

  • Adroddiad terfynol Ymarferiad Dyfrnod – yn cynnwys gwersi a ddysgwyd gan y rhai fu â rhan yn yr ymarferiad, ac yn gwneud 36 argymhelliad i lywodraethau Cymru a’r DU er mwyn helpu gwella ein parodrwydd ni ar gyfer llifogydd eang.
  • Cynllunio, cyflawni ac adolygu Ymarferiad Dyfrnod - disgrifia’r adroddiad hwn gynllunio, cyflawni ac adolygu’r ymarferiad, a’r gwersi y gall y rhai sy’n cynllunio ymarferiadau eu dysgu.
  • Crynodeb Ymarferiad Dyfrnod ar gyfer cymunedau – rhanna’r adroddiad cryno hwn ganfyddiadau perthnasol ar gyfer cymunedau sydd â budd iddynt. Cynhwysa astudiaethau o weithgareddau cymunedau, a chrynodeb o’r hyn a ddigwydd nesaf er mwyn ymateb i’r canfyddiadau.

Cyhoeddwyd yr adroddiadau hyn ar wefan Defra.

Adroddiad terfynol Asiantaeth yr Amgylchedd

Yn ychwanegol, rydym wedi cyhoeddi adroddiad a ddisgrifia’r hyn a wnaethom cyn ac yn ystod Ymarferiad Dyfrnod, gan danlinellu ein hymateb i achosion eang o lifogydd, a sut y gweithiwn ag ymatebwyr eraill a chymunedau er mwyn sicrhau fod pawb yn barod pan ddêl llifogydd.

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Canolbwyntia’r adroddiad hwn ar yr ymarferion a gynhaliwyd yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, â chymorth y sawl fu a rhan yng nghynllunio a chyflawni Ymarferiad Dyfrnod yng Nghymru. Cyfrannwyd canfyddiadau’r adroddiad hwn at y broses adolygu genedlaethol.